Neidio i'r cynnwys

Rygbi'r undeb

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Chwaraewr rygbi'r undeb)
Rygbi'r undeb
Enghraifft o'r canlynoldisgyblaeth chwaraeon Edit this on Wikidata
MathRygbi Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1823 Edit this on Wikidata
GwladTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1823 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Un or chwaraeon cyswllt llawn ydy rygbi'r undeb. Math o bêl-droed neu gnapan ydyw a ddechreuodd yn Lloegr ar ddechrau'r 19eg ganrif [1] Un o reolau rygbi yw bod hawl rhedeg gyda'r bêl yn eich dwylo. Chwaraeir y gêm gan ddefnyddio pêl hirgrwn, ar ddarn laswellt gan amlaf sydd yn 100m o hyd a 70m o led. Ar bob pen, ceir dwy gôl siap y lythyren H.

Dywedir yn aml mai William Webb Ellis a grëodd y gêm o redeg tra'n dal y bêl ym 1823 yn Ysgol Rugby pan dywedir iddo ddal y bêl tra'n chwarae pêl-droed gan redeg at gôl y gwrthwynebwyr. Er mai prin yw'r dystiolaeth i gefnogi'r hanes hwn, anfarwolwyd stori Ellis yn yr ysgol pan ddatguddiwyd cofed iddo ym 1895. Ym 1848, ysgrifennwyd y rheolau cyntaf gan ddisgyblion - dyma oedd un o'r digwyddiadau cydnabyddedig yn natblygiad cynnar rygbi; mae datblygiadau eraill yn cynnwys penderfyniad Clwb Blackheath i adael Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ym 1863, a'r rhanniad rhwng rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair ym 1895. Y corff sy'n rheoli rygbi'r undeb yng Nghymru yw Undeb Rygbi Cymru.

Rheolir rygbi'r undeb gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ers iddo gael ei greu ym 1886 ac ar hyn o bryd mae ganddo 115 o undebau cenedlaethol. Ym 1995, cafodd y BRRh wared ar gyfyngiadau ar daliadau i chwaraewyr, gan wneud y gêm yn broffesiynol yn gyhoeddus ar y lefel uchaf am y tro cyntaf.

Cynhelir Cwpan Rygbi'r Byd bob pedair blynedd, gydag enillydd y twrnament yn ennill Cwpan Web Ellis. Cynhaliwyd y twrnament cyntaf ym 1987. Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad (Yr Alban, Cymru, Yr Eidal, Ffrainc, Iwerddon a Lloegr) a'r Pencampwriaeth Rygbi (Yr Ariannin, Awstralia, De Affrica a Seland Newydd) yn gystadlaethau rhynglwadol a gynhelir bob blwyddyn. Mae cystadlaethau gwladol eraill yn cynnwys yr Aviva Premiership yn Lloegr, y Top 14 yn Ffrainc, y Currie Cup yn Ne Affrica, a'r ITM Cup yn Seland Newydd. Mae cystadlaethau trawsgenedl eraill yn cynnwys y RaboDirect Pro 12, y cystadleuaeth rhwng tîmoedd yn Yr Alban, Cymru, Yr Eidal ac Iwerddon; y Super Rugby, sy'n cynnwys tîmoedd De Affrica, Awstralia a Seland Newydd; a'r Cwpan Heineken, sy'n cynnwys y tîmoedd Ewropeaidd mwyaf.

Fel rheol, chwaraeir gêm o rygbi gyda dau dîm o 15, ond gellir hefyd cael dau dîm o 7.

Safleoedd ar y maes[golygu | golygu cod]

Blaenwyr[golygu | golygu cod]

Prif gyfrifoldeb y blaenwyr yw ennill a chadw y meddiant. Mae'r blaenwyr fel arfer yn fwy ac yn gryfach, ac yn cymryd rhan yn y sgrym a'r llinell.

Rheng flaen[golygu | golygu cod]

1 Prop pen rhydd
2 Bachwr
3 Prop pen tyn

Ail reng[golygu | golygu cod]

4 Clo
5 Clo

Rheng ôl[golygu | golygu cod]

6 Blaenasgellwr ochr dywyll
7 Blaenasgellwr ochr agored
8 Wythwr

Cefnwyr[golygu | golygu cod]

9 Mewnwr
10 Maswr
11 Asgellwr chwith
12 Canolwr mewnol
13 Canolwr allanol
14 Asgellwr de
15 Cefnwr

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Origins of Rugby - Codification -"The innovation of running with the ball was introduced some time between 1820 and 1830."