Derry

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Deri)
Deri
Mathdinas, tref ar y ffin Edit this on Wikidata
Poblogaeth85,016 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Derry
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Arwynebedd387 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Foyle Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.9917°N 7.3417°W Edit this on Wikidata
Cod postBT47, BT48 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholDerry City and Strabane District Council Edit this on Wikidata
Map

Dinas yng Ngogledd Iwerddon yw Dinas y Deri[1] neu Derry (Gwyddeleg: Doire[2] neu Doire Cholm Chille). Mater dadleuol yw pa ffurf ar yr enw a ddefnyddir yn Saesnegː fel rheol, mae'r Unoliaethwyr yn galw'r ddinas yn "Londonderry" a chenedlaetholwyr yn ei galw'n "Derry".

Saif yr hen ddinas ar lan orllewinol Afon Foyle; mae'r ddinas erbyn hyn ar y ddwy lan. Roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 2001 yn 83,652, gyda 90,663 yn yr ardal ddinesig. Mae'n agos i Swydd Donegal a ffin Gweriniaeth Iwerddon. Yn draddodiadol, sefydlwyd y ddinas gan y sant Colum Cille. Y digwyddiadau enwocaf yn ei hanes yw Gwarchae Derry yn 1688 - 1689 a Bloody Sunday ar ddydd Sul, 30 Ionawr 1972, pan saethwyd 13 o brotestwyr hawliau sifil yn farw gan filwyr Prydeinig, gyda un arall yn marw bedwar mis yn ddiweddarach o ganlyniad i anafiadau gafwyd yn y digwyddiad.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

  • Canolfan Amelia Earhart
  • Eglwys Gadeiriol Sant Columb
  • Eglwys Gadeiriol Sant Eugene
  • Guildhall

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Pobl o Derry[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Briff Ymchwil - Y wybodaeth ddiweddaraf am adael yr Undeb Ewropeaidd" (PDF). 12 Chwefror 2018. Ymweliad y Pwyllgor â Dulyn, Belffast a Dinas y Deri am sesiwn ddilynol ar gysylltiadau rhwng y DU ac Iwerddon.
  2. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.