Menzel Bouzaiane

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Menzel Bouzayane)
Menzel Bouzaiane
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSidi Bouzid Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau34.5721°N 9.4256°E Edit this on Wikidata
Cod post9114 Edit this on Wikidata
Map

Tref yng nghanolbarth Tiwnisia yw Menzel Bouzaiane neu Menzel Bouzaïene (Arabeg: منزل بوزيان), a leolir 60 km i'r de o Sidi Bouzid yn nhalaith Sidi Bouzid. Mae'n gorwedd ym mynyddoedd Dorsal Tiwnisia rhwng copaon Djebel Majoura (i'r gogledd) Djebel Bou (i'r de). Rhed y brifordd RN14 Meknessy-Gafsa trwy'r dref. Roedd 5,595 o bobl yn byw yno yn 2004.[1]

Ar 18 Rhagfyr 2010 bu protestiadau mawr yn erbyn llywodraeth yr Arlywydd Zine Ben Ali gan bobl ifanc heb waith yn Sidi Bouzid. Ymledodd yr anghydfod i Menzel Bouzayane lle cafwyd gwrthdaro ar raddfa eang rhwng protestwyr a'r heddlu a'r lluoedd diogelwch. Llosgwyd rhai o geir yr heddlu a rhoddwyd trên nwyddau ar dân. Lladdwyd un o'r protestwyr.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cyfrifiad 2004". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-19. Cyrchwyd 2011-01-03.
  2. "Des Tunisiens dans la rue contre le chômage", Le Figaro, 28 Rhagfyr 2010.