North Wales, Pennsylvania
![]() | |
Math | bwrdeistref Pennsylvania ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 3,426 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Montgomery County, Pennsylvania ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 0.59 mi², 1.520792 km² ![]() |
Uwch y môr | 400 troedfedd ![]() |
Yn ffinio gyda | Sumneytown ![]() |
Cyfesurynnau | 40.2108°N 75.275°W, 40.2°N 75.3°W ![]() |
![]() | |
- Gweler hefyd Wales (gwahaniaethu).
Mae North Wales yn fwrdeistref yn Montgomery County, Pennsylvania, Unol Daleithiau America. Erbyn heddiw mae'n un o faerdrefi allanol Philadelphia, Pennsylvania, ac yn un o dair tref hanesyddol yn Nyffryn Gogledd Penn. Ei phoblogaeth oedd 3,342 yn nghyfrifiad 2000.
Cafodd y dref ei henwi'n North Wales gan ei sefydlwyr am fod nifer mawr ohonynt yn ymfudwyr o ogledd Cymru (gweler hefyd Tract Cymreig). Dechreuodd fel pentref bychan yng nghefn gwlad amaethyddol Gwynedd Township.
Newidiwyd ei natur wledig gyda adeiladu Rheilffordd Gogledd Pennsylvania, a ddechreuwyd yn 1852. Dechreuodd gwasaneth o Fethlehem i Philadelphia trwy North Wales ar y rheilffordd honno yn 1857. Tyfodd y dref yn gyflym o gwmpas yr orsaf reilffordd. Cafodd North Wales ei wneud yn fwrdeistref yn 1869, gan ychwanegu tir o Upper Gwynedd Township.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/4/4b/NorthWalesLB06.jpg/260px-NorthWalesLB06.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/9/9d/NorthWalesLB03.jpg/260px-NorthWalesLB03.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/4/4e/NorthWalesLB05.jpg/260px-NorthWalesLB05.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bf/Map_of_USA_PA.svg/200px-Map_of_USA_PA.svg.png)
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Bwrdeistref North Wales