Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
Enghraifft o'r canlynol | swydd gyhoeddus |
---|---|
Math | prif weinidog, Great Officer of State |
Label brodorol | Prime Minister of the United Kingdom |
Rhan o | Cabinet y Deyrnas Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 4 Ebrill 1721 |
Deiliad presennol | Rishi Sunak |
Deiliaid a'u cyfnodau | |
Enw brodorol | Prime Minister of the United Kingdom |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.gov.uk/government/organisations/prime-ministers-office-10-downing-street |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pennaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Mae'n bennaeth Llywodraeth Ei Fawrhydi a Chabinet y Deyrnas Unedig. Y Prif Weinidog cyfredol yw Rishi Sunak, a apwyntiwyd gan Frenin y DU. Cartref swyddogol y Prif weinidog yw 10 Stryd Downing, Llundain a'r cartref gwledig yw Chequers. Gyda Gweinidogion y Cabinet mae'n atebol i'r Llywodraeth, i Goron Lloegr, i'w blaid ei hun ac yn y pendraw i'w bobl.
Nid yw'r swydd hon wedi'i diffinio o fewn unrhyw gyfansoddiad na deddfwriaeth eithr drwy draddodiad yn unig, sy'n mynnu fod yn rhaid i'r frenhiniaeth benodi'r person mwyaf tebygol o hawlio ffydd aelodau'r Tŷ'r Cyffredin yn Brif Weinidog. Drwy draddodiad, mae'n penodi arweinydd y blaid a enillodd y fwyaf o seddi yn siambr San Steffan.
Ni chrewyd y swydd, felly; cafodd ei ffurfio'n araf dros dri chan mlynedd a hynny mewn modd penchwiban. Mae gwreiddiau'r swydd i'w canfod mewn newidiadau cyffrous yn y cyfansoddiad rhwng 1688 a 1720 a'r modd y symudodd y pwer o ddwylo'r frenhiniaeth i ddwylo'r Llywodraeth. Gwnaed hyn, yng ngwledydd Prydain, nid drwy chwyldro a chwalu'r frenhiniaeth eithr drwy iddi hi neu ef lywodraethu drwy'r Prif Weinidog. Mae'r frenhiniaeth, felly, wedi parhau'n bennaeth ar y Llywodraeth, ond mewn enw a seremoni'n unig.
Erbyn y 1830au, roedd y system llywodraethol yn San Steffan wedi deor o'i blisg; roedd y Prif weinidog yn primus inter pares, neu'n gydradd, o fewn y Cabinet ac yn bennaeth ar y Llywodraeth. Esblygodd y swydd law yn llaw ag esblygiad y pleidiau gwleidyddol a datblygiad y cyfryngau torfol megis teledu, radio, papurau, ffotograffiaeth a'r rhyngrwyd.
Cyn 1902 deuai'r Prif Weinidog weithiau o Dŷ'r Arglwyddi ond wrth i bwer yr Arglwyddi wanychu yn ystod y 19g cryfhaodd y traddodiad iddo eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin. Cadarnhawyd hyn gan Ddeddf 1911 a roddodd fwy o rym i Dŷ'r Arglwyddi ar dael Tŷ'r Arglwyddi.[4] Oherwydd yr holl bwer unbeniaethol hwn ofna rhai fod trefn "Arlywyddol" Unol daleithiau'r America wedi ei gyrraedd.
Gan nad yw'r swydd wedi'i chreu'n swyddogol, ni ellir datgan unwaith-ac-am-byth pwy oedd yn y swydd yn gyntaf. Eithr, yn answyddogol, gellir nodi Robert Walpole a ddaeth i swydd "Yr Arglwydd Cyntaf i'r Trysorlys" ym 1721.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ https://www.nytimes.com/live/2022/10/25/world/uk-prime-minister-rishi-sunak.
- ↑ 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 2.12 2.13 2.14 2.15 2.16 2.17 2.18 2.19 2.20 2.21 2.22 2.23 2.24 2.25 2.26 2.27 2.28 2.29 2.30 2.31 2.32 2.33 2.34 2.35 2.36 2.37 2.38 2.39 2.40 2.41 2.42 2.43 2.44 2.45 2.46 2.47 2.48 2.49 2.50 2.51 2.52 2.53 2.54 2.55 2.56 2.57 2.58 2.59 2.60 2.61 2.62 2.63 2.64 2.65 2.66 2.67 2.68 2.69 2.70 2.71 2.72 2.73 "Past Prime Ministers - GOV.UK". Cyrchwyd 26 Ionawr 2024.
- ↑ https://www.theguardian.com/politics/live/2022/oct/24/uk-politics-live-rishi-sunak-penny-mordaunt-boris-johnson-withdrawal-nominations-deadline-tory-leadership-contest-race.
- ↑ legistlation.gov.uk; adalwyd 6 Hydref 2013
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol swydd y Brif Weinidog