Rws Kyiv

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rws Kiefaidd)
Rws Kiefaidd
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasKyiv Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,400,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 882 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Hen Slafeg dwyreiniol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladRws Kyiv Edit this on Wikidata
Arwynebedd1,330,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.45°N 30.525°E Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganOleg o Novgorod Edit this on Wikidata
Ariankuna, grivna, nogata Edit this on Wikidata

Gwladwriaeth a fodolai yn Nwyrain Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar oedd Rws Kyiv (o'r enw Rwseg diweddar Ки́евская Русь; enwau gwreiddiol: Hen Slafoneg y Dwyrain:Роусь (Rusĭ) neu роусьскаѧ землѧ (rusĭskaę zemlę) sef "Gwlad y Rws", Hen Norseg: Garðaríki). Ffurfiodd y wladwriaeth tua diwedd y 9g, gan barhau tan iddi gael ei chwalu gan oresgyniadau'r Mongoliaid-Tatariaid yn ail chwarter y 13g. Dinas Kyiv oedd canol y wladwriaeth. Gwelodd cyfnod Rws Kyiv gyflwyniad Cristnogaeth i'r ardal gan Vladimir I yn 988.

Map sy'n dangos maintioli Rws Kyiv tua 1000

Mae enw "Rws" yn tarddu o enw'r llwyth Llychlynnaidd a ddaeth i arglwyddiaethu ar y tiroedd Slafaidd dwyreiniol yn ail hanner y 9g.

Mae hanesyddion yn tueddu heddiw i gyfeirio at Rws yn hytrach na Rwsia yn y cyfnod cynnar er mwyn pwysleisio bod y wladwriaeth ganoloesol gynnar yn rhagflaenu tair cenedl fodern, Rwsia, Wcráin a Belarws, yn hytrach na Rwsia yn unig, ac hefyd am fod craidd y wladwriaeth wedi'i leoli mewn ardaloedd sydd heddiw yn rhan o Wcráin.