Cambria, Wisconsin

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cambria (Wisconsin))
Cambria
Mathpentref Wisconsin Edit this on Wikidata
Poblogaeth777 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirColumbia County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd2.684154 km², 2.679794 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr279 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.5428°N 89.11°W Edit this on Wikidata
Map
Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Cambria.

Pentref yn Columbia County, talaith Wisconsin, Unol Daleithiau America, yw Cambria.

Yn wreiddiol galwyd y pentref yn Florence neu Langdon's Mills, wedyn Bellville. Daeth yr enw Cambria wedi i grŵp ymfudo o Gymru, yn cynnwys teuluoedd o ardal Dolwyddelan ym 1845. Roedd y criw yma wedi dechrau ar eu siwrnai yn cerdded o Ddolwyddelan i Drefriw gyda'r holl gymuned yn eu hebrwng, ac o Drefriw ar long i Lerpwl cyn hwylio ar draws Môr Iwerydd i Efrog Newydd. Bu farw rhai ar y daith.

Roedd J. Glyn Davies yn berthynas i rai o'r ymfudwyr, yn ddisgynnydd o gangen o'r teulu a arhosodd yng Nghymru. Mewn erthygl a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth yntau, mae'n adrodd hanes ymweliad ganddo pan yn ddyn ifanc â Chambria ym 1898. Mae'n cofnodi sut roedd yr iaith Gymraeg yn fyw iawn yn y pentref bryd hynny, a'r brodorion yn barod i gyfarch un arall o'r un llwyth, ond bod yr arferion yn dechrau pallu wrth bod y gymdeithas yn cymysgu.

Location of Cambria, Wisconsin

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • J. Glyn Davies, "Cambria, Wisconsin in 1898", Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1957, tud. 128–159