Eglwys Iarll Caerlŷr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Eglwys Iarll Leicester)
Eglwys Iarll Caerlŷr
Mathadfail eglwys, eglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1578 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadDinbych Edit this on Wikidata
SirDinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr122.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.18222°N 3.419045°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iDewi Sant Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE044 Edit this on Wikidata

Mae Eglwys Leicester, a fwriadwyd ei henwi'n wreiddiol yn Eglwys Dewi Sant, yn adfail eglwys na orffenwyd ei hadeiladu. Saif yr adfeilion o fewn waliau allanol Castell Dinbych ar ben bryncyn yn Ninbych, yng ngogledd Cymru. Fe'i hadeiladwyd ar gyfer Robert Dudley, Iarll 1af Leicester, a thorwyd y dywarchen gyntaf yn 1578, ond oherwydd anawsterau ariannol a marwolaeth ei fam dair oed, daeth y gwaith i ben yn 1584. Bu farw'r Iarll yn annisgwyl ym 1588 a rhoddwyd y gorau i'r prosiect. Ceir Eglwys Dewi Sant arall yn Ninbych, adeilad Gradd II. Er mai Caerlŷr yw dinas Leicester yn Gymraeg, nid chyfieithir enwau personol.

Hwn oedd yr unig ymgais i adeiladu eglwysi mawr yng Nghymru neu Loegr yn oes Elisabeth, ac am gyfnod o gan mlynedd. Ar farwolaeth Robert Dudley heb unrhyw etifedd, dychwelodd ei holl ystadau i Goron Lloegr, fel waliau noeth, heb do. Mae bellach yn adeilad rhestredig Gradd I ac yn Heneb Gofrestredig, dan ofal Cadw.

Adfeilion sefydlog[golygu | golygu cod]

Mae’r eglwys adfeiliedig wedi sefyll fel cragen wag ers i’r gwaith ddod i ben yn 1584, gan amgáu petryal sylweddol o 54.9 metr (75 tr). Defnyddiwyd llawer o'r cerrig dros y blynyddoedd mewn adeiladau eraill, yn enwedig o wal y de a'r gorllewin. Mae waliau'r gogledd a'r dwyrain yn parhau fel yr oeddent yn y 16g, gyda 10 bwa a ffenestri Tuduraidd enfawr.[1] Byddai'r eglwys hon wedi edrych yn hollol wahanol i'r eglwysi Gothig a'i rhagflaenodd. Gan i gyn lleied o eglwysi newydd gael eu hadeiladu yn y ganrif yn dilyn y diwygiad, Eglwys Leicester yw'r 'enghraifft fwyaf arwyddocaol ac uchelgeisiol o adeilad eglwysig Protestannaidd yng nghyfnod Elisabeth'.[2][3]

Arglwyddiaeth Dinbych[golygu | golygu cod]

Arglwydd cyntaf Dinbych oedd Henry de Lacy, a gafodd y tiroedd a'r teitl ym 1284 fel gwobr gan Edward I, brenin Lloegr, am ei waith fel milwyr ym myddin Lloegr a drechodd Llywelyn yr II, Tywysog Cymru. Wedi oes de Lacy, a oedd yn un o Arglwyddi’r Mers.[4] Daliai arglwyddi olynol arglwyddiaeth Dinbych, ac ar adegau bu ffraeo rhyngddynt ynghylch pwy oedd berchen y tiroedd, hyd nes y daeth y Mortimeriaid. Pan ddaeth Edward IV yn frenin, ym 1461, trosglwyddwyd Arglwyddiaeth Dinbych yn ôl i Goron Lloger.[5] O dan ddiwygiadau Tuduraidd 1535–42, daethpwyd ag Arglwyddiaethau’r Mers o fewn y deyrnas, gan ddileu eu hymreolaeth.

Er bod Arglwyddiaeth Dinbych wedi'i huno â'r Goron, cadwodd ei hunaniaeth ei hun, ac ym 1563, rhoddodd Elisabeth I yr arglwyddiaeth i Robert Dudley. Nid oedd sail gyfreithiol i'r rhodd hwn, ond yr oedd ei allu a'i statws yn gyfryw fel y gallai ymddwyn fel pe bai ganddo'r un math o ryddid unbeniaethol ag a fu cyn hynny.[4] Nid oedd pobl Dinbych yn hoff o'r trefniant hwn, a chafwyd peth gwrthryfela o ganlyniad. Gwnaed Dudley hefyd yn "Iarll Leicester" yn 1564, a gwnaed nifer o welliannau i'r dref, i dawelu pobl Dinbych. Adeiladodd neuadd y dref a neuadd farchnad, ac yn 1579 gosododd garreg sylfaen eglwys newydd, y gyntaf i'w hadeiladu er y diwygiad.[6]

Eglwys gadeiriol Piwritanaidd[golygu | golygu cod]

Roedd cynlluniau Iarll Leicester ar gyfer ei eglwys newydd ar raddfa fawr. Fe'i cysegrwyd i Dewi Sant, ac mae'n debyg ei fod yn gobeithio ei gwneud yn gadeirlan brotestannaidd newydd yn lle Eglwys Gadeiriol Llanelwy.[1] Fel cefnogwr y mudiad piwritanaidd o fewn y Diwygiad Protestannaidd Seisnig, yr oedd am bwysleisio pregethu fel canolbwynt gwasanaethau Anglicanaidd, yn hytrach na dathlu'r offeren. Roedd y tŷ pregethu petryal, eang hwn yn dod a'r gynulleidfa'n nes at y pulpud, i glywed y pregethau, yn hytrach na dathlu'r offeren ar allor pell yn y dwyrain. Roedd y bwlch mewn llywodraethu eglwysi, cyllid a nawdd a achoswyd gan y Diwygiad Protestannaidd yn golygu o 1536 ymlaen, na ymgymerwyd ag unrhyw adeiladau eglwysig newydd o bwys ledled Cymru a Lloegr am y 100 mlynedd nesaf. Mae ymgais Iarll Leicester i adeiladu eglwys o'r fath yma yn Ninbych yn sefyll ar ei phen ei hun fel yr unig enghraifft o'i bath.[1] Byddai'r canlyniad wedi bod yn litwrgaidd ac o ran arddull gwahanol iawn i'r adeiladau arddull gothig yr Eglwys Anglicanaidd. Byddai ffenestri mawr, arddull Tuduraidd yn rhedeg ar hyd corff yr eglwys wedi sicrhau adeilad wedi'i oleuo'n dda, gyda cholofnau Tysganaidd a nodweddion o'r Dadeni wedi edrych yn fodern ac yn rhyngwladol ar yr un pryd.

Adeiladu adfail[golygu | golygu cod]

Mur gogleddol eglwys Leicester, Dinbych

Ym 1584, wedi 5 mlynedd o waith yn codi'r adeilad, daeth y gwaith i ben. Yn yr un flwyddyn farw mab tair oed Dudley. Roedd marwolaeth ei unig blentyn cyfreithlon, a elwir yn Farwn Dinbych, yn ergyd ofnadwy yn bersonol ac o ran llinach, gan ei fod yn ei adael heb etifedd, heb fawr o ddisgwyl y byddai ei wraig 40 oed yn esgor ar blentyn arall.[7] Ni wnaed unrhyw waith pellach ar yr Eglwys anghyflawn. Ar wahan i'r glec o golli mab, roedd ganddo broblem diffyg arian. Roedd adeiladu eglwys garreg enfawr yn rhy ddrud hyd yn oed i Iarll. Boed oherwydd hyn, neu gostau eraill, y flwyddyn ganlynol bu'n rhaid i Dudley forgeisio ei arglwyddiaeth yn Ninbych am £15,000, i dalu ei ddyledion.[4] Dair blynedd ar ôl hynny, yn 1588, bu farw Robert Dudley ei hun, yn annisgwyl. Heb etifedd, dychwelodd ei holl ystadau a theitlau i Goron Lloegr. Talodd y Frenhines Elisabeth I y morgais ar arglwyddiaeth Dinbych yn 1592,[4] ond yn amlwg nid oedd ganddi hi na neb arall ddiddordeb mewn bwrw ymlaen â'r gwaith o adeiladu Eglwys Dewi Sant, a pharhaodd yn eiddo i'r Goron yn hytrach na'r esgobaeth leol. Yn hytrach fe'i defnyddiwyd fel cyflenwad o gerrig a deunyddiau adeiladu eraill. Er bod y waliau'n dal i fod o'r uchder llawn, mae ganddynt gan amlaf ffenestri bylchog, heb eu fframio, lle mae'r cerrig nadd wedi'u dwyn.[1]

Yn ôl y sôn, defnyddiwyd yr adfail ar gyfer ymladd ceiliogod a hyd yn oed gornestau dau-bistol. Fe'i dynodwyd yn Heneb Gofrestredig ac yn adeilad rhestredig gradd I ac mae bellach yn nwylo Cadw, a brynodd yn raddol nifer o eiddo o amgylch y dref. Chwalwyd Castell Dinbych, 150 metr i'r de, yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr[8] ac mae Muriau'r Dref yn rhedeg o fewn ychydig fetrau i safle'r eglwys.[9] Mae Capel Sant Ilar 50 metr i ffwrdd, ac mae Brodordy Dinbych Carmelaidd ar ben arall Stryd y Dyffryn. Dywedir fod gan Dinbych fwy o adeiladau nodedig y filltir sgwar, nag unrhyw fan arall yng Nghymru.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 historicwales.gov.uk – Cadw listing for Leicester's Church (Remains) grade I Listed Building. Dataset UID 970, 20 July 2000
  2. Denbigh Church, Earl of Leicester (ID PRN16769). ar 'SMR' ar gyfer Ymddiriedolaeth Archaeoleg Clwyd-Powys; Clwyd Powys Archaeological Trust (CPAT)
  3. St David's or Leicester's Church, Denbigh (ID NPRN93307). arComisiwn Brenhinol Henebion Cymru (RCAHMW)
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 Michael Prestwich (1992). Edward I. t. 204. ISBN 978-0-7083-1076-2.Michael Prestwich (1992). Edward I. p. 204. ISBN 978-0-7083-1076-2.
  5. Adams, Simon (2002). Leicester and the Court: Essays on Elizabethan Politics. tt. 295–6. ISBN 978-0719053252.
  6. www.information-britain.co.uk Denbigh accessed 25 April 2016
  7. Little Lord Denbigh, Christine Hartweg, 2012, All Things Robert Dudley
  8. "cadw.gov.wales Denbigh Castle". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-05-02. Cyrchwyd 2024-05-05.
  9. cadw.gov.wales Denbigh Town Walls