Neidio i'r cynnwys

Wicipedia:Erthygl ddethol

Oddi ar Wicipedia

Mae rhai erthyglau ar Wicipedia wedi cael eu hethol gan gymuned Wicipedia fel erthyglau dethol, oherwydd eu bod o safon dda, heb gynnwys testun heb ffynhonnell neu gyfeiriad. Rhoddir y marc hwn ar erthygl ddethol yn arwydd o'i statws.

Erthyglau wedi'u cynnig:


System cynnig darpar erthygl ddethol[golygu cod]

Mae'r broses o gynnig darpar erthyglau ddethol a'u hadolygu yn cael ei weinyddu gan y gymuned ar y dudalen waith Wicipedia:Cynnig erthygl ddethol. Gall unrhyw un gynnig bod rhyw erthygl yn cael ei gynnwys ymhlith erthyglau dethol Wicipedia ar y dudalen honno. Gall unrhyw gyfrannwr helpu gyda'r gwaith adolygu hefyd trwy roi nodyn ar y dudalen waith yn nodi'r agweddau o'r gwaith adolygu y mae'n bwriadu troi atynt – po fwyaf sydd wrthi'n golygu po fwyaf o erthyglau a gaiff eu cynnwys yn y categori erthyglau dethol. Hyd yn oed os nad yw rhywun yn cytuno i gyfrannu at y gwaith golygu mae croeso iddo nodi a yw'n cefnogi'r cynnig i drin yr erthygl yn ddarpar erthygl ddethol. Byddai o ddefnydd bod cymaint â phosibl ohonom yn nodi ar y dudalen waith ein bod naill ai'n:

  • Cefnogi - cytuno y dylai'r erthygl gael ei thrin fel darpar erthygl ddethol, gan gynnig sylwadau manylach ar wendidau a.y.b. ar dudalen sgwrs yr erthygl ei hun.
  • Gwrthwynebu - mae'r erthygl ymhell o'r safon angenrheidiol; dylid tynnu'r enwebiad yn ôl ac ail-enwebu'r erthygl pan mae wedi gwella.

Os na fydd digon o gefnogwyr a golygyddion yn dod i'r fei fe all trefnydd y darpar erthyglau symud y cynnig i archifau'r dudalen.

Os nad oes unrhyw ymateb i gynnig neu newid statws ar ôl 7 diwrnod, gellir ychwanegu statws i dudalen cyn belled ei bod yn cyrraedd y safon a nodir.

Gweithio ar yr erthygl[golygu cod]

Ar dudalen sgwrs yr erthygl mae'r gwaith adolygu manwl yn digwydd.

Yn ddelfrydol bydd cyfrannwr gwreiddiol yr erthygl yn cymryd rhan yn y gwaith yma. Weithiau nid yw hynny'n bosib pan nad yw'r cyfrannwr gwreiddiol yn dal i fod yn weithgar ar Wicipedia. Dylid cysylltu â'r cyfrannwr gwreiddiol pan gynigir yr erthygl yn gyntaf ar y dudalen waith.

Rhestrir y gofynion ar gyfer erthygl ddethol isod.

Wrth i'r gwaith golygu gael ei gyflawni gall y rhai sy'n gwneud y gwaith ac eraill nodi ar y dudalen sgwrs eu bod yn fodlon neu'n anfodlon ar ryw agwedd o'r gwaith neu ar yr erthygl gyfan. Eto gellir marcio sylwadau gyda cefnogi neu gwrthwynebu i dynnu sylw at safbwynt y defnyddiwr.

Ar ôl i erthygl ddethol gael ei gynnig am o leiaf 7 diwrnod a chael cytundeb mwyafrif o olygyddon (neu ddim ymateb), gall unrhyw un:

  • ychwanegu'r marc at yr erthygl ac ychwanegu'r erthygl at y categori erthyglau dethol, drwy deipio {{erthygl ddethol}}, ac yn
  • symud yr eitem o'r dudalen 'Cynnig erthyglau dethol' i archifau'r dudalen.

Gofynion erthygl ddethol[golygu cod]

  • Trafodaeth eang gyda manylder dda ym mhob agwedd o'r pwnc.
  • Dim cynnwys o gwbl heb gyfeiriad (heblaw'r cyflwyniad).
  • Trafodaeth o bob pennawd amlwg.
  • Yn cynnwys nifer addas o ddelweddau.
  • O leiaf 5 ffynhonnell.
  • Dim gwallau amlwg.
  • Yn ffeithiol gywir.
  • Cymraeg cywir ac eglur.
  • Perspectif Cymreig yn ogystal ag un byd-eang
  • O leiaf 5 paragraff o hyd ac yn trin y testun yn gyflawn.
  • Yn ddiduedd.
  • Dylai'r categorïau ar waelod yr erthygl ffurfio cadwyn gyflawn. Hynny yw, ni ddylai cadwyn diweddu â chategori coch.
  • Dylai'r dolenni rhyngwici arwain yn syth at yr erthygl gyfatebol yn yr ieithoedd eraill.
  • Dylai lleiafrif o ddolenni'r erthygl fod yn rhai coch.
  • Dylai'r cysylltiadau at wefannau allanol weithio.

Cyfeithiadau[golygu cod]

  • Golygu cyfieithiadau o Wicipedia mewn iaith arall. Nid yw'r gofynion adolygu o reidrwydd namyn gwahanol i'r arfer pan yw Wicipedia mewn iaith arall yn ffynhonnell y darpar erthygl ddethol. Ond pan mae'r erthygl mewn iaith arall eisoes yn erthygl ddethol ar y Wicipedia arall yna mae modd cwtogi rhywfaint ar y gwaith golygu. Cyhyd â bod ffeithiau'r cyfieithiad yn cyfateb i ffeithiau'r gwreiddiol a bod prif bwyntiau'r gwreiddiol yn bresennol yn y cyfieithiad does dim rhaid gwirio'r ffeithiau i'r ffynonellau gwreiddiol eto.

Esiamplau o erthyglau 'Da' ar wicis eraill[golygu cod]