13 Reasons Why

Oddi ar Wicipedia
13 Reasons Why
Enghraifft o'r canlynolcyfres deledu Edit this on Wikidata
CrëwrBrian Yorkey Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dod i'r brig2017 Edit this on Wikidata
Dod i ben2020 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd31 Mawrth 2017 Edit this on Wikidata
Daeth i ben5 Mehefin 2020 Edit this on Wikidata
Genredrama bobl-ifanc, cyfres am bobl ifanc, cyfres deledu sy'n seiliedig ar nofel, coming-of-age television program Edit this on Wikidata
Yn cynnwys13 Reasons Why, season 1, 13 Reasons Why, season 2, 13 Reasons Why, season 3, 13 Reasons Why, season 4 Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithCaliffornia Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuAnonymous Content Edit this on Wikidata
CyfansoddwrBrendan Angelides Edit this on Wikidata
DosbarthyddNetflix Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.netflix.com/title/80117470 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfres ddrama ar-lein yw 13 Reasons Why (ysgrifennir ar-sgrin fel Th1rteen R3asons Why) sy'n seiliedig ar y nofel a gyhoeddwyd yn 2007 gan Jay Asher ac addaswyd gan Brian Yorkey i Netflix[1]. Mae'r gyfres yn dilyn myfyrwr, Clay Jensen, a'i ffrind Hannah Baker, merch a laddodd ei hun ar ôl dioddef cyfres o amgylchiadau digalon a achoswyd gan rai unigolion yn ei hysgol. Ceir bocs o dapiau casét yn manylu'r 13 rheswm am ei hunanladdiad.

Cynhwysa'r tymor cyntaf o 13 o benodau.[2][3] Cynhyrchwyd y gyfres gan July Moon Productions, Kicked to the Curb Productions, Anonymous Content a Paramount Television. Yn wreiddiol, roedd yn mynd i fod yn ffilm i'w darlledu gan Universal Pictures gyda Selena Gomez yn y prif rôl, ond mabwysiadwyd y cynhyrchiad gan Netflix yn 2015 gyda Gomez fel cynhyrchydd gweithredol. Rhyddhawyd y tymor cyntaf a'r bennod arbennig, 13 Reasons Why: Beyond the Reasons, ar Netflix ar yr 31 Mawrth 2017.

Mae'r gyfres wedi derbyn adolygiadau cadarnhaol o feirniaid a chynulleidfaoedd, sydd wedi canmol ei thestun a chymeriadau, yn enwedig y ddau actor arweiniol, Dylan Minnette a Katherine Langford. Mae hefyd wedi denu dadl o ganlyniad i'w phortread graffig o faterion sensitif sef hunanladdiad a thrais rhywiol, yn ogystal â chynnwys aeddfed arall. Ym mis Mai o 2017, cyhoeddwyd y bydd tymor arall yn cael ei ddarlledu yn 2018.[4]

Stori[golygu | golygu cod]

Mae Clay Jensen yn cyrraedd ei dŷ ac yn darganfod bocs dirgel tu fas iddo. O'i fewn, mae e'n darganfod saith casét dau-ochrog a recordwyd gan Hannah Baker, ei ffrind agos, a laddodd ei hun rhyw ddwy wythnos yn gynharach. Ar y tapiau, mae Hannah yn datgelu dyddiadur llafar torcalonnus ac yn manylu'r 13 rheswm a wthiodd iddi ddiweddu ei bywyd. Mae ei chyfarwyddiadau yn glir: un o'r rhesymau am ei hunanladdiad ydy pob person a dderbyna'r bocs. Ar ôl i bob person wrando ar y tapiau, mae'n rhaid iddynt basio'r pecyn ymlaen i'r derbynnydd nesaf. Pe bai rhywun beidio â dilyn y cyfarwyddiadau, wedyn caiff set gwahanol o dapiau ei rhyddau i'r cyhoedd. Cyfeirir pob tâp i berson penodol yn ei hysgol ac yn manylu eu cyfraniad at ei hunanladdiad yn y pen draw. [5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "'Spotlight's Brian d'Arcy James Cast In Netflix Series '13 Reasons Why', Joins TNT Pilot 'Civil'". Deadline. June 15, 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Medi 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Andreeva, Nellie (26 Chwefror 2016). "Diana Son Joins Selena Gomez's Netflix Series '13 Reasons Why' As Showrunner". Deadline. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Medi 2016. Cyrchwyd 16 Medi 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Andreeva, Nellie (June 8, 2016). "'13 Reasons Why' Netflix Series: Dylan Minnette & Katherine Langford Lead Cast". Deadline. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 14, 2016. Cyrchwyd 16 Medi 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "'13 Reasons Why' Renewed for a Second Season at Netflix". Variety. 7 Mai 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Mai 2017. Cyrchwyd 7 Mai 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "Crynodeb o'r gyfres 13 Reasons Why". Shmoop. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-27. Cyrchwyd 22/09/17. Check date values in: |access-date= (help)