Adam Beard

Oddi ar Wicipedia
Adam Beard
Ganwyd7 Ionawr 1996 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra203 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau117 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Gweilch, Clwb Rygbi Aberafan Edit this on Wikidata
SafleClo Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr rygbi'r undeb sydd wedi chwarae dros Gymru yw Adam Beard (ganwyd 7 Ionawr 1996). Mae'n chwarae yn safle'r ail reg ac ar hyn o bryd yn chwarae i'r Gweilch yn y Pro14.

Gwnaeth Beard ei ymddangosiad cyntaf i'r Gweilch yn 2012 ar ôl chwarae i'w timau academi, Clwb Rygbi Aberafan a Chlwb Rygbi Treforys.

Chwaraeodd dros Gymru ar lefel dan-20 cyn ennill ei gap llawn cyntaf i Gymru yn erbyn Samoa yn Nhaith yr Haf 2017.[1]

Dechreuodd Beard bob gêm heblaw am yr un yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019, gan sicrhau'r Gamp Lawn gyntaf i Gymru ers 2012.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]