African Training Institute

Oddi ar Wicipedia
African Training Institute

Sefydliad i addysgu plant Affricanaidd i fod yn genhadon Cristnogol oedd yr African Training Institute. Sefydlwyd ym Mae Colwyn gan y Parchedig William Hughes dan yr enw Congo Training Institute (neu Congo House) ym 1889 i addysgu plant o'r Congo. Roedd Leopold II, brenin Gwlad Belg yn noddwr y sefydliad. Ail-enwyd yn yr African Training Institute a denodd ddisgyblion o'r Camerŵn, Nigeria, Sierra Leone, Liberia, a'r Unol Daleithiau. Roedd y disgyblion hefyd yn derbyn hyfforddiant mewn crefftau. Ym 1912 wynebodd William Hughes methdaliad wedi iddo golli achos enllib, a chaeodd y sefydliad.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Draper, Christopher a Lawson-Reay, John. Scandal at Congo House: William Hughes and the African Institute, Colwyn Bay (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 2012).