Alfred Drake
Alfred Drake | |
---|---|
Ganwyd | Alfred Capurro 7 Hydref 1914 Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 25 Gorffennaf 1992 Dinas Efrog Newydd |
Man preswyl | Dinas Efrog Newydd |
Label recordio | Apex |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, dramodydd, actor llwyfan, actor teledu, cyfarwyddwr theatr |
Gwobr/au | Gwobr Tony am Actor Gorau mewn Sioe Gerdd, Tony Honors for Excellence in Theatre |
Roedd Alfred Drake (7 Hydref 1914 – 25 Gorffennaf 1992) yn actor Americanaidd oedd yn enwog am ei rolau mewn sioeau cerdd [1]
Cefndir[golygu | golygu cod]
Ganwyd Drake yn ninas Efrog Newydd. Ei enw gwreiddiol oedd Alfred Capurro.[2] Roedd yn fab i rieni a mewnfudodd i'r Unol Daleithiau o Recco, Genoa. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Brooklyn
Teulu[golygu | golygu cod]
Roedd yn frawd i'r cyfansoddwr caneuon ysgafn Arthur Kent (awdur y can Bring Me Sunshine, thema y deuawd comedi Morecambe a Wise). Bu'n briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Alma Tollefsen wedi ysgariad priododd Esther Harvey Brown ym 1944. Roedd ganddo ddau blentyn.
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Dechreuodd Drake ei yrfa Broadway tra'n fyfyriwr yng Ngholeg Brooklyn. Mae'n fwyaf adnabyddus am chware rhannau blaenllaw yng nghyrchiadau gwreiddiol Broadway o Oklahoma!, Kiss Me, Kate a Kismet [3] ac am chwarae Marshall Blackstone yn y cynhyrchiad gwreiddiol o Babes in Arms, (lle canodd cân y teitl). Derbyniodd Wobr Tony am chware rhan Hajj yn Kismet. Roedd hefyd yn nodedig am ei rannau mewn cynyrchiadau o ddramâu Shakespeare yn arbennig am chwarae rôl Benedick yn Much Ado About Nothing gyferbyn a Katharine Hepburn.
Yn bennaf, actor llwyfan a theledu oedd Drake. Serennodd mewn dim ond un ffilm, Tars a Spars [4] (1946) ond bu'n chwarae nifer o rolau ar y teledu, gan gynnwys darparu'r llais ar gyfer addasiad animeiddiedig o nofel L. Frank Baum The Life and Adventures o Santa Claus. Ymddangosodd mewn rôl fân fel llywydd y gyfnewidfa stoc yn y comedi clasurol Trading Places (1983), gydag Eddie Murphy a Dan Aykroyd. Ei ymddangosiad sioe gerdd gyntaf ar y teledu oedd fel y Capten Dick Warrington mewn darllediad byw ym 1955 yn byw o'r opereta Naughty Marietta. Cafodd ei berfformiad 1964 fel Claudius yn Hamlet gyferbyn a Richard Burton ei ffilmio'n fyw ar lwyfan Theatr Lunt-Fontanne, a'i ddangos mewn sinemâu. Fe'i recordiwyd hefyd ar LP. Ei ymddangosiad llwyfan olaf mewn sioe gerdd oedd fel Honore LaChaisse yn Gigi ym 1973. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, bu'n serennu mewn adfywiad o ddrama Thornton Wilder The Skin of Our Teeth. Fel cyfarwyddwr, bu'n gyfrifol am lwyfannu'r perfformiad cyntaf o The Royal Rape of Ruari Macasmunde yn Theatr Amgueddfa Virginia ym 1974.
Fe'i hurddwyd yn aelod o Oriel Anfarwolion Theatr America ym 1981.[5]
Bu hefyd yn awdur gan gyhoeddi dramâu gan gynnwys Dr. Willy Nilly, addasiad o ddrama Molière Le Médecin malgré lui ac addasiad o ddrama Carlo Goldoni Il bugiardo. Cyhoeddodd hefyd lyfr ar chware cardiau Anyone Can Win at Gin Rummy and Canasta (1949).[6]
Marwolaeth[golygu | golygu cod]
Bu farw o fethiant y galon yn dilyn brwydr yn erbyn canser yn Ninas Efrog Newydd yn 77 mlwydd oed.[7]
Rolau Theatr[golygu | golygu cod]
- The Gondoliers (1935)
- The Yeomen of the Guard (1935)
- The Pirates of Penzance (1935)
- The Mikado (1935)
- White Horse Inn (1936)
- Babes in Arms (1937)
- The Two Bouquets (1938)
- One for the Money (1939)
- The Straw Hat Revue (1939)
- Two for the Show (1940)
- Out Of The Frying Pan (1941)
- As You Like It (1941)
- Oklahoma! (1943)
- Sing Out, Sweet Land (1944)
- Beggar's Holiday (1946)
- The Cradle Will Rock (1947)
- Kiss Me, Kate (1948)
- Joy to the World (1948)
- The Liar (1950) (actor ac awdur)
- Courtin' Time (1951) – (cyfarwyddwr)
- The King and I (1952)
- The Gambler (1952)
- Kismet (1953)
- Marco Polo (1954)
- Kean (1961)
- Zenda (1963)
- Lorenzo (1963)
- Hamlet (1964), cyfarwyddwyd gan Syr John Gielgud, gyda Richard Burton yn gyd serennu
- Those That Play the Clowns (1966)
- Song of the Grasshopper (1967)
- Gigi (1973)
- The Royal Rape of Ruari Macasmunde (1974) (cyfarwyddwr)
- The Skin of Our Teeth (1975)
- Gambler's Paradise (1975)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Encyclopædia Britannica Alfred Drake AMERICAN ACTOR adalwyd 28 Ionawr 2019
- ↑ IBDb – Alfred Drake adalwyd 28 Ionawr 2019
- ↑ Alfred Drake ar The Official Masterworks Broadway Site adalwyd 28 Ionawr 2019
- ↑ Independent - Obituary: Alfred Drake adalwyd 28 Ionawr 2019
- ↑ New York Times fM26 From Broadway Voted Into Theater Hall of Fame adalwyd 28 Ionawr 2019
- ↑ Amazon Anyone Can Win at Gin Rummy and Canasta by Alfred Drake adalwyd 29 Ionawr 2019
- ↑ New York Times Alfred Drake, Baritone Star of 'Oklahoma!' and 'Kismet,' Dies at 77 adalwyd 29 Ionawr 2019