Neidio i'r cynnwys

Aneddiadau hynafol Cwm Eigiau

Oddi ar Wicipedia
Aneddiadau hynafol Cwm Eigiau
Mathcylch cytiau caeedig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.157221°N 3.930289°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN236 Edit this on Wikidata

Olion math o gytiau hynafol sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Efydd yw Aneddiadau hynafol Cwm Eigiau, yng nghymuned Caerhun, Sir Conwy; cyfeiriad grid SH710639. Mae i'w weld rhwng Llyn Eigiau a Ffynnon Llugwy. Enw arall ar y math hwn o heneb yw Cytiau'r Gwyddelod, sy'n enw camarweiniol.

Cofrestrwyd yr olion hyn gan Cadw a chânt eu hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN236.[1] Dyma un o'r ardaloedd cyfoethocaf yn y math hwn o gytiau.

Cychwynnwyd codi cytiau crynion tua 1,500 C.C. a daethant i ben tua'r adeg y daeth y Rhufeiniaid i Ynys Prydain. Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau a meini hirion. Maen nhw i'w canfod yng Ngwynedd, Môn, Sir Conwy a Sir Gaerfyrddin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]