Ffawna Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Anifeiliaid Cymru)


Yr anifeiliaid sy'n byw yng Nghymru yw ffawna Cymru, milod Cymru, milfodeg Cymru neu'n syml anifeiliaid Cymru. Dyma amlinilliad o uchafbwyntiau bywyd gwyllt Cymru a lle gellir ei weld.

Mae rhannau anghysbell o'r wlad yn gartref i rai mamaliaid ac adar sydd wedi darfod yng ngweddill Prydain , neu'n brin mewn mannau eraill o'r ynys, gan gynnwys y ffwlbart, y bele, y barcud coch a'r frân goesgoch. Ceir niferoedd mawr o adar y môr a'r glannau, ac mae'r dolffin trwynbwl yn byw ym Mae Ceredigion.

Adar[golygu | golygu cod]

Barcud Coch a'r Gwalch[golygu | golygu cod]

Gwalch benywaidd, Cors Dyfi

Mae ymdrechion wedi bod i ailgyflwyno'r barcud coch yng Nghymru. Erbyn hynmae'r barcud coch i'w weld yn y canolbarth ac mae ei gynffon fforchog yn eiconig yma. Bwydir y barcudiaid ar Fferm Gigrin ger Rhaeadr Gwy, ac hefyd Canolfan Goedwig Bwlch Nant yr Arian. Mae math arall o aderyn ysglyfaethus hefyd yn byw yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ger Machynlleth. Yno mae gweilch yn nythu ar guddfan adar uchel.[1]

Adar morol[golygu | golygu cod]

Pâl yn rhedeg, Ynys Sgomer

Ar warchodfa RSPB Clogwyni Ynys Lawd ar Ynys Môn mae amrywiath o adar morol yn byw gan gynnwys palod, gwylogod, llursod, gwylanod coesddu, adar drycin y graig, yn ogystal a chigfrain, brain coesgoch a hebogiaid tramor.[1] Mae pâliaid hefyd yn nythu ar ynysoedd o amgylch Cymru gan gynnwys Ynys Sgomer ger arfordir Penfro.[1] Hefyd ar Ynys Sgomer yn ogystal a Ynys Sgogwm mae Aderyn drycin Manaw ac amcagyfrifir fod tua 350,000 o barau yn ythu yno ac maent hefyd i'w gweld ar Ynys Enlli.[1]

Adar coed[golygu | golygu cod]

Grugiar ddu, Llangollen

Yng Nghoed Llandegla fe ellir gweld grugiar ddu gwryw yn ystod yr hâf yn gwneud campiau gan fflachio'u plu ac ymladd eu gilydd i ddenu benywod.[1]

Yng nghoetir Withybeds wrth yr afon Llugwy mae dros 30 o rywogaethau o adar yn paru gan gynnwys gwybedogion, conocellod a thylluanod bach.[1]

Adar tir agored[golygu | golygu cod]

Gwarchodfa RSPB Ynys-hir yw un o gadarenleoedd y cornchwiglod, lle mae cynefin amrywiol iddynt gan gynnwys cors, coedwigoedd a dolydd.[1]

Mamaliaid[golygu | golygu cod]

Ysgyfarnog, Mynydd Hiraethog

Mae mamaliaid amrywiol yn byw yng Nghyrmu gan gynnwys yr ysgyfarnog.[angen ffynhonnell]




Ymlysgiaid[golygu | golygu cod]

Gwiber, Mynydd Hiraethog

Mae gwiberod yn byw yng Nghymru hefyd.[angen ffynhonnell]



Pryfed[golygu | golygu cod]

Glesyn serennog, Mynydd Marian

Mae pryfed amrywiol i'w gweld yng Nghymru.[angen ffynhonnell]





Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 "Mannau gwych i weld bywyd gwyllt". Croeso Cymru. Cyrchwyd 2024-06-02.