Ardal Malvern Hills
Math | ardal an-fetropolitan ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Gaerwrangon |
Prifddinas | Malvern ![]() |
Poblogaeth | 81,024 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerwrangon (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 577.071 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 52.0837°N 2.3437°W ![]() |
Cod SYG | E07000235 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Malvern Hills District Council ![]() |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal Malvern Hills.
Mae gan yr ardal arwynebedd o 577.1 km², gyda 78,113 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yn cwmpasu'r rhan fwyaf o hanner gorllewinol Swydd Gaerwrangon. Mae'n ffinio â thair ardal arall Swydd Gaerwrangon, sef Ardal Wyre Forest, Ardal Wychavon a Dinas Caerwrangon, yn ogystal â siroedd Swydd Amwythig, Swydd Henffordd a Swydd Gaerloyw.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1e/Malvern_Hills_UK_locator_map.svg/220px-Malvern_Hills_UK_locator_map.svg.png)
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 fel rhan o sir newydd Henffordd a Chaerwrangon. Pan ddiddymwyd y sir honno ym 1998, ac ailgyhoeddwyd hen ffiniau sirol Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon, collodd Malvern Hills ran sylweddol o'i arwynebedd gorllewinol i Swydd Henffordd, ond ychwanegodd Tenbury Wells i'r gogledd, ac roedd yr ardal gyfan wedi'i chyfyngu o fewn ffiniau Swydd Gaerwrangon.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/4/47/HerefordWorcesterMalvernHills.png)
Pencadlys yr awdurdod yw Great Malvern. Tenbury Wells ac Upton-upon-Severn yw trefi eraill yr ardal.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ City Population; adalwyd 15 Mawrth 2020