Arthur Probert

Oddi ar Wicipedia
Arthur Probert
Ganwyd30 Medi 1907 Edit this on Wikidata
Bu farw14 Chwefror 1975 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Roedd Arthur Reginald Probert (30 Medi 190914 Chwefror 1975) yn wleidydd Llafur Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros Aberdâr.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Proberts ym 1907 yn Aberdâr yn fab i Albert John Probert, tafarnwr. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr.

Priododd Muriel Taylor ym 1938, yr oedd hi yn ferch i William Taylor o Abercwmboi a chawsant dwy ferch.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Bu'n gweithio fel swyddog atgyweirio ystadau tai i Gyngor Dinesig Aberdâr. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd yn yr Awyrlu Brenhinol a bu'n gwasanaethu yn yr Alban, yr Almaen a Denmarc.

Gyrfa Gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Roedd Probert yn aelod gweithgar o Undeb y Gweithwyr Trafnidiol a Chyffredinol a gwasanaethodd fel ysgrifennydd Cyngor Llafur Aberdâr. Wedi marwolaeth David Emlyn Thomas AS Aberdâr ym 1954, safodd Probert yn Ymgeisydd y Blaid Lafur mewn isetholiad ym mis Hydref yr un flwyddyn gan gael ei ethol i Dŷ'r Cyffredin. Cadwodd afael ar y sedd hon hyd ei ymddeoliad adeg Etholiad Cyffredinol, Chwefror 1974.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. PROBERT, ARTHUR REGINALD yn Y Bywgraffiadur arlein [1] adalwyd 24 Rhagfyr 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David Emlyn Thomas
Aelod Seneddol dros Aberdâr
19541974
Olynydd:
Ioan Evans