Neidio i'r cynnwys

Asclepius

Oddi ar Wicipedia
Asclepius
Enghraifft o'r canlynolduw Groeg, health deity Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Duw meddygaeth Groeg yr Henfyd yw Asclepius (Groeg: Ασκληπιός) neu Aesculapius (Lladin). Yn ôl y chwedl roedd yn fab i Apollo, duw Iachau, gan Coronis, merch y brenin Phlegyas o Thessalia. Roedd ei blant yn cynnwys Hygieia, duwies Iechyd. Portreadir y duw gan amlaf gyda'i ffon â neidr yn dolenni o'i chwmpas. Symbol o ddadeni a darogan oedd y neidr hon.

Bu gan Asclepius nifer o demlau yn yr Henfyd. Lleolid nifer o'r rhain ger ffynhonnau sanctaidd neu ar fryniau. Cyrchai pobl y temloedd i geisio gwella o'u hafiechydon. Byddent yn cysgu yn y deml ac yn cael cyfarwyddiad yn eu breuddwydion a'r offeiriad-feddygon yn eu dehongli iddynt wedyn.

Daeth addoliad y duw i ddinas Rhufain ar orchymyn Llyfrau'r Sibyl ar ôl pla 293 CC. Cedwid nadroedd, symbol Asclepius, yn y temlau a godwyd iddo. Yn ddiweddarach uniaethid Asclepius â'r duw Eifftaidd Serapis.

Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato