Neidio i'r cynnwys

Baner yr Orsedd

Oddi ar Wicipedia
Baner yr Orsedd
Baner Gorsedd y Beirdd

Baner a ddefnyddir gan Orsedd y Beirdd yn ei seremonïau yw Baner yr Orsedd. Mae'n seiliedig ar gynllun a greuwyd gan T. H. Thomas ar gyfer Gorsedd Llandudno yn 1896.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn ôl Nennius, roedd y ddraig goch yn symbol milwrol ym Mhrydain cyn 800 OC. Mae'r gerdd "Gorchan Maelderw" gan Aneirin yn dyddio o tua 600 OC ac yn cyfeirio at "rud dhreic" a all ei chyfieithu fel "draig goch" a "pharaon" yn cyfeirio at hen enw Dinas Emrys sydd i'w weld yn Nhrioedd Ynys Prydain a Lludd a Llefelys. Mae'r gerdd yn profi bod draig goch genedlaethol y Brythoniaid yn gyfredol mor gynnar â 600AD (dwy ganrif cyn cael ei hysgrifennu yn Lladin gan Nennius). Mae'n bosib mai dyma'r cyfeiriad cyntaf at ddraig goch yn llenyddiaeth Cymru yn y 6g. Mae'r gair "pharaon" yn enw hynafol ar Ddinas Emrys, ac mae'r cyfeiriad hon dwy ganrif cyn cofnod Nennius yn Historia Brittonum o stori Lludd a Llefelys; arwydd posib o darddiad hyd yn oed hŷn na hyn.[1]

Yn y gerdd, fe sonir am y ddraig goch yn hedfan yn yr awel yn ystod Brwydr Catraeth yn ogystal a'r haul a'r Duw "Hu". Ysgrifenwyd y gerdd gan Taliesin ond mae'n ymddangos yn y Llyfr Aneirin. Crewyd y faner gan "Archimagus" neu archdderwydd ar gyfer Maelderw, arweinydd y lluoedd brodorol ac er mwyn amddiffyn y Brythoniaid.[2][3] Mae'r faner hon yn cynnwys delwedd o'r arweinydd, yr haul a'r ddraig goch. Roedd y derwyddon Gwyddelig hefyd yn paratoi baneri'r haul i'w harweinwyr, sef y faner "Dal-greine" gyda'r haul arno.[4]

Baner fodern Wydelig o'r haul

Gwelir y farddoniaeth gwreiddiol o Gwarchan Maeldderw (a chyfieithiad Cymraeg o'r cyfieithiad Saesneg):[5][2]

Molawt rin rymidhin rymenon.
Dyssyllei trech tra manon.
Disgleiryawr ac archawr tal achon
ar rud dhreic fud pharaon.
Kyueillyawr en awel adawaon.

Moliant yw rhaniad y rhai a ryfeddant.
Syllai'r buddugol tra teg.
Disgleiro ac amlwg tal flaen.
a'r rhudd-ddraig fydd pharaon.
Cyfeilir ar awel ei bobl.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Y Ddraig yn Nychymyg a Llenyddiaeth y Cymry c.600 – c.1500" (PDF).
  2. 2.0 2.1 Davies, Edward (1809). “The” Mythology And Rites Of The British Druids, Ascertained By National Documents; And Compared With The General Traditions And Customs Of Heathenism, As Illustrated By The Most Eminent Antiquaries Of Our Age ; With An Appendix, Containing Ancient Poems And Extracts, With Some Remarks On Ancient British Coins (yn Saesneg). J. Booth. tt. 582–588.
  3. "Gwarchan of Maelderw". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2024-01-14.
  4. Cambrian Quarterly Magazine and Celtic Repertory (yn Saesneg). proprietors. 1832. t. 322.
  5. Maclagan, Robert Craig (1882). Scottish Myths: Notes on Scottish History and Tradition (yn Saesneg). Maclachlan and Stewart. t. 70. ISBN 978-0-598-73846-2.