Bruno Rodriguez

Oddi ar Wicipedia
Bruno Rodriguez
DinasyddiaethBaner Yr Ariannin Yr Ariannin
Galwedigaethymgyrchydd hinsawdd Edit this on Wikidata

Mae Bruno Rodriguez yn ymgyrchydd hinsawdd yn yr Ariannin. Mae'n arweinydd Gwener y Dyfodol (Fridays for Future) yn yr Ariannin.[1][2]

Roedd yn ddirprwy yn Uwchgynhadledd Hinsawdd Ieuenctid y Cenhedloedd Unedig 2019.[3][4] Astudiodd Bruno Rodriguez wyddoniaeth wleidyddol ym Mhrifysgol Buenos Aires. Yn y gorffennol, mae wedi eiriol dros newid cymdeithasol ac wedi cyhuddo llywodraethau cenedlaethol o ddiffyg gweithredu systemig yn ogystal â thynnu sylw at y diwydiant tanwydd ffosil am “ddwyn ac anrheithio” mwynau ledled America Ladin.[5]

“Mae gan ein harweinwyr byd rwymedigaeth i wneud newid radical, ond anaml y bydd newid yn digwydd o’r brig i lawr. Mae'n digwydd pan fydd miliynau o bobl yn mynnu newid. ”[6]

Cymerodd Rodriguez ran yn y cyfarfod ieuenctid swyddogol cyntaf yn erbyn newid yn yr hinsawdd a drefnwyd gan y Cenhedloedd Unedig ym mis Medi 2019.

Mae'n credu bod yna lawer o bethau y mae'n rhaid i bobl ddechrau eu gwneud i gyfyngu ar eu heffaith ar y byd e.e. newid eu harferion ailgylchu, gwneud dewisiadau bwyd personol. Dywedodd Rodriguez, "Heb wleidyddion cenedlaethol, heb i'r dosbarth gwleidyddol gymryd cyfrifoldeb am y mater, ni fyddwn yn gallu cyflawni unrhyw beth."

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Buenos Aires Times | Argentine climate activist makes waves at UN climate summit". www.batimes.com.ar. Cyrchwyd 2021-05-20.
  2. "Bruno Rodríguez. "El ambientalismo tiene que empezar a embarrarse" - LA NACION". La Nación (yn Sbaeneg). ISSN 0325-0946. Cyrchwyd 2021-05-20.
  3. "Youth leaders at UN demand bold climate change action". France 24 (yn Saesneg). 2019-09-22. Cyrchwyd 2021-05-20.
  4. "'An Obligation to Make Radical Change': At Youth Climate Summit, Young Leaders Say Merely Listening to Science Is Not Enough". Common Dreams (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-20.
  5. globalshakers.com; Archifwyd 2021-05-21 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 21 Mai 2021.
  6. Plant Based News.2019