C.P.D. Y Seintiau Newydd

Oddi ar Wicipedia
C.P.D. Y Seintiau Newydd
Enw llawn Clwb Pêl-droed Y Seintiau Newydd
Llysenw(au) Y Seintiau
Sefydlwyd 1860 (C.P.D. Tref Croesoswallt)
1959 (C.P.D. Llansantffraid)
Maes Neuadd y Parc, Croesoswallt
Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru
2023/24 1.

Clwb pêl-droed o Groesoswallt ydy Clwb Pêl-droed Y Seintiau Newydd (Saesneg: The New Saints Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, sef Preimier Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru ac maent wedi bod yn bencampwyr ar 13eg achlysur. Maent hefyd wedi codi tlws Cwpan Cymru ar chwech achlysur.

Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Neuadd y Parc, maes sy'n dal uchafswm o 3,000 o dorf[1].

Daeth y clwb i fodolaeth yn dilyn uniad rhwng clybiau Llansantffraid a Chroesoswallt yn 2003[2] .

Ceir hefyd tîm menywod Y Seinitau Newydd. Bu i C.P.D. Merched y Seintiau Newydd gystadlu yn nhymor cyntaf Adran Premier, sef, Uwch Gynghrair Pêl-droed Merched Cymru ar ei newydd wedd yn nhymor 2021-22.

Hanes[golygu | golygu cod]

Croesoswallt[golygu | golygu cod]

Er eu bod wedi eu lleoli yn Lloegr, roedd C.P.D. Tref Croesoswallt yn un o'r clybiau sefydlodd Gymdeithas Bêl-droed Cymru ym 1876[3] gan gystadlu yng Nghwpan Cymru yn y gystadleuaeth cyntaf erioed ym 1877-78[4].

Fel nifer o glybiau Cymru ar y pryd, roedd Croesoswallt yn chwarae yng Nghwpan Cymru ac yng Nghwpan FA Lloegr, lle llwyddon nhw i gyrraedd y rownd gyntaf am y tro cyntaf ym 1927-28 cyn colli 5-2 yn erbyn Stockport County[5].

Cafodd Croesoswallt eu tymor gorau yng Nghwpan Cymru ym 1970-71 wrth iddynt gyrraedd y rownd gynderfynol cyn colli yn erbyn Wrecsam[6] a chawsant eu coroni'n bencampwyr Cynghrair Sir Gaer (Saesneg: Cheshire League) ym 1971-72[7]

Ym 1979-80 cafodd Croesoswallt eu derbyn yn aelodau o Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr (Saesneg: Northern Premier League)[8] ond ar ddiwedd tymor 1987-88, ar ôl gorffen yn safleoedd y cwymp, fe aeth y clwb i'r wal[3][8].

Ail ffurfiwyd y clwb yn y 1990au ac, yn dilyn sefydlu Uwch Gynghrair Cymru, gwnaed penderfyniad i ddod yn aelodau o'r pyramid Cymreig gan ennill y Gynghrair Undebol ar y cynnig cyntaf ym 1995-96[9] a sicrhawyd dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru ar ôl ennill y Gynghrair Undebol eto yn 1999-2000[10].

Ar ddiwedd tymor 2003-04, a chyda'r clwb yn dioddef yn arianol, fe ymddiswyddodd y clwb o Uwch Gynghrair Cymru cyn uno â chlwb Total Network Solutions[11].

Llansantffraid[golygu | golygu cod]

Y Dreflan, maes C.P.D. Llansantffraid

Ffurfiwyd C.P.D Llansantffraid ym 1959 ym mhentref Llansantffraid-ym-Mechain, Powys gyda'r clwb yn dechrau chwarae yng Nghynghrair Sir Drefaldwyn ym 1959-60[12]. Ar ôl blynyddoedd o ennill tlysau ar lefel Sir Drefaldwyn[2] cafwyd dyrchafiad i Gynghrair Canolbarth Cymru ym 1990-91[13] ac ar ôl gorffen y tymor yn yr ail safle, cafwyd dyrchafiad yn syth i'r Gynghrair Undebol ar gyfer tymor 1991-92[14].

Yn eu hail dymor yn y Gynghrair Undebol, llwyddodd Llansantffraid i ddod yn bencampwyr a sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru[15].

Llwyddodd Llansantffraid i godi Cwpan Cynghrair Cymru ym 1994-95 gan drechu Ton Pentre yn y rownd derfynol[16] a'r flwyddyn canlynol cafwyd buddugoliaeth ar giciau o'r smotyn dros Y Barri yn rownd derfynol Cwpan Cymru[17].

Ym 1997-98 ailenwyd y clwb yn Total Network Solutions yn dilyn nawdd gan gwmni cyfrifiadurol o Groesoswallt[2].

Y Seintiau Newydd[golygu | golygu cod]

Yn 2006, wedi i gwmni BT brynu Total Network Solutions[18], cyhoeddwyd y byddai'r clwb yn newid ei enw i Y Seintiau Newydd[19].

Llwyddodd y clwb i dorri record Y Barri fel y clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes Uwch Gynghrair Cymru wrth sicrhau eu wythfed pencampwriaeth yn 2013-14 cyn ymestyn y record â nawfed pencampwriaeth yn 2014-15.

Record Ewropeaidd[golygu | golygu cod]

Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
1996-97 Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop Rd Rhag Baner Gwlad Pwyl Ruch Chorzów 1-1 0-5 1-6
2000-01 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1 Baner Estonia Levadia Tallinn 2-2 0-4 2-6
2001-02 Cwpan UEFA Rd Rhag Baner Gwlad Pwyl Polonia Warsaw 0-2 0–4 0-6
2002-03 Cwpan UEFA Rd Rhag Baner Gwlad Pwyl Amica Wronki 0-5 2-7 2-12
2003-04 Cwpan UEFA Rd Rhag Baner Lloegr Manchester City 0-5 0-2 0-7
2004-05 Cwpan UEFA Rhag 1 Baner Sweden Östers IF 0-2 1-2 1-4
2005-06 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1 Baner Lloegr Lerpwl 0-3 0-3 0-6
2006-07 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1 Baner Y Ffindir MYPA 0-1 0-1 0-2
2007-08 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1 Baner Latfia FK Ventspils 3-2 1-2 4-4 (a)
2008-09 Cwpan UEFA Rhag 1 Baner Lithwania FK Sūduva 0-1 0-1 0-2
2009-10 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1 Baner Gwlad yr Iâ Fram Reykjavik 1-2 1-2 2-4
2010-11 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 2 Baner Gweriniaeth Iwerddon Bohemians 0-1 4-0 4-1
Rhag 3 Baner Gwlad Belg Anderlecht 1-3 0-3 1-6
2010-11 Cynghrair Europa UEFA Ail Chwarae Baner Bwlgaria CSKA Sofia 0-3 2-2 2-5
2011-12 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1 Baner Gogledd Iwerddon Cliftonville 1-1 1-0 2-1
Rhag 2 Baner Denmarc FC Midtjylland 1-3 2-5 3-8
2012-13 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 2 Baner Sweden Helsingborgs IF 0-0 0-3 0-3
2013-14 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 2 Baner Gwlad Pwyl Legia Warsaw 1-3 0-1 1-4
2014-15 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 2 Baner Slofacia Slovan Bratislava 0-1 0-2 0-3
2015-16 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1 Baner Ynysoedd Faroe B36 Tórshavn 2-1 4-1 6-2
Rhag 2 Baner Hwngari Videoton 0-1 1-1 (w.a.y.) 1-2
2016-17 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1 Baner San Marino Tre Penne 2-1 3-0 5-1
Rhag 2 Baner Cyprus APOEL 0-0 0-3 0-3
2017-18 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1 Baner Gibraltar Europa F.C. 1-2 3-1 4-3
Rhag 2 Baner Croatia Rijeka 1-5 0-2 1-7
2018-19 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 2 Baner Gogledd Macedonia Shkëndija style="background:#F99;vertical-align:middle;text-align:center;" class="table-no"|0–5 (A) 4–0 (H) 4–5
rowspan="2"| UEFA Europa League UEFA Europa League 2Q Baner Gibraltar Lincoln Red Imps 2–1 (H) 1–1 (A) 3–2
3Q Baner Denmarc Midtjylland 0–2 (H)[a] 1–3 (A) 1–5
2019–20 UEFA Champions League 1Q Baner Cosofo Feronikeli 2–2 (H) 1–0 (A) 3–2
2Q Baner Denmarc Copenhagen 0–2 (H) 0–1 (A) 0–3
UEFA Europa League 3Q Baner Bwlgaria Ludogorets Razgrad 0–5 (A) 0–4 (H) 0–9
2020–21 UEFA Europa League 1Q Slofacia Žilina 3-1[20] N/A N/A

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Chwaraewyr nodedig[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Club Info: The New Saints". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-11. Cyrchwyd 2015-07-06. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 2.2 "TNS FC:History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-07. Cyrchwyd 2015-07-06. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. 3.0 3.1 "Oswestry Town F.C." Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen marw]
  4. "Welsh Cup 1877-78". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "FA Cup 1927-28". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Welsh Cup 1970-71". Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Oswestry targets return to footballing map". Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. 8.0 8.1 "RSSSF: Northern Premier League Final Tables". Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Cymru Alliance: 1995-96". Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Cymru Alliance: 1999-2000". Unknown parameter |published= ignored (help)
  11. "Oswestry and TNS merger to go ahead". 2004-12-15.
  12. "Montgomery & District League 1959-60". Unknown parameter |published= ignored (help)
  13. "Mid Wales League 1990-91". Unknown parameter |published= ignored (help)
  14. "Cymru Alliance League 1991-92". Unknown parameter |published= ignored (help)
  15. "Cymru Alliance League 1992-93". Unknown parameter |published= ignored (help)
  16. "League Cup Final: 1994-95". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-15. Cyrchwyd 2015-07-06. Unknown parameter |published= ignored (help)
  17. "Welsh Cup Final: 1995-96". Unknown parameter |published= ignored (help)
  18. "BT to 'expand' TNS after buy-out". 2005-10-31. Unknown parameter |published= ignored (help)
  19. "Enw newydd TNS". 2006-06-02. Unknown parameter |published= ignored (help)
  20. https://twitter.com/sgorio/status/1299086772266295302
Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022

Aberystwyth | Caernarfon | Cei Connah | Derwyddon Cefn | Hwlffordd | Met Caerdydd |
Pen-y-Bont | Y Bala | Y Barri | Y Drenewydd | Y Fflint | Y Seintiau Newydd


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "lower-alpha", ond ni ellir canfod y tag <references group="lower-alpha"/>