Cenedlaetholdeb ethnig

Oddi ar Wicipedia
Cenedlaetholdeb ethnig
Enghraifft o'r canlynolideoleg wleidyddol Edit this on Wikidata
Mathcenedlaetholdeb, Q2100933 Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebCenedlaetholdeb sifig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffurf ar genedlaetholdeb sydd yn pennu cenedligrwydd ar sail grŵp ethnig yw cenedlaetholdeb ethnig. Pwysleisir hunaniaeth genedlaethol sydd yn tarddu o gydberthynas hanesyddol y grŵp ethnig hon, sydd yn aml ynghlwm wrth etifeddiaeth ddiwylliannol a chymdeithasol, gan gynnwys iaith, crefydd, neu drefnau llwyth a charennydd. Mae cenedlaetholwyr ethnig fel arfer yn ensynnu cenedl-wladwriaeth a chanddi boblogaeth sydd yn bennaf, neu hyd yn oed yn hollol, o'r grŵp ethnig hwnnw. Mae'r ideoleg hon yn groes felly i genedlaetholdeb sifig. Os ydy'r genedl ethnig yn lleiafrif o fewn gwladwriaeth, gallasent ymgyrchu neu frwydro dros ymwahanu oddi arni er mwyn ennill sofraniaeth genedlaethol, er enghraifft drwy refferendwm neu ryfel annibyniaeth. Mae mudiadau iredentaidd yn anelu at gyfuno tiriogaethau o wladwriaethau gwahanol a chanddynt boblogaethau ethnig cyffredin.

Yn ystod yr Oesoedd Canol, datblygodd ambell wladwriaeth homogenaidd ethnig tu mewn i ffiniau sefydlog a chyda niferoedd isel o fewnfudwyr. Mae nifer o ynysoedd o amgylch y byd yn gartref i genhedloedd homogenaidd ethnig, er enghraifft Gwlad yr Iâ a Japan. Yn sgil twf cenedlaetholdeb yn Ewrop y 19g, cafwyd deffroad gan sawl grŵp ethnig, a bu'r syniad o genedligrwydd ethnig yn bwysig mewn cenedl-wladwriaethau homogenaidd a gwledydd amlethnig ac amlgenedlaethol, megis Awstria-Hwngari, fel ei gilydd. Yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, yn sgil cwymp sawl ymerodraeth a phŵer mawr, parhaodd hunaniaethau ethnig yn gryf ymhlith pobloedd Ewrop. Cydnabuwyd hunanbenderfyniad cenhedloedd gan Woodrow Wilson, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ei Bedwar Pwynt ar Ddeg, a bu gwleidyddiaeth a gwrthdaro ethnig yn tynnu sylw Cynghrair y Cenhedloedd trwy gydol oes y sefydliad hwnnw. Bu'r dimensiwn ethnig yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop a'r methiant i'w ddatrys yn un o brif achosion yr Ail Ryfel Byd.[1]

Yn y cyfnod wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, ceisiwyd heddychu pryderon ethnig gan y drefn wrth-hiliol newydd. Ffurfiwyd gwladwriaethau amlethnig ar draws Affrica ac Asia sydd fel arfer yn cadw at ffiniau'r hen drefedigaethau. Mae llywodraethau'r gwledydd hyn yn tueddu i wrthwynebu ail-lunio'r ffiniau i blesio'r iredentwyr a'r ymwahanwyr ethnig, ac yn ffafrio hunaniaeth genedlaethol yn seiliedig ar y diriogaeth sydd ohoni, beth bynnag ei phoblogaeth. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu nad yw'r elitau yn amddiffyn buddiannau grwpiau ethnig eu hunain, ar draul grwpiau eraill, tu mewn i ffiniau'r wlad honno.[1] Mae gwahaniaethau ethnig wedi bod wrth wraidd, neu o leiaf yn cyd-cysylltu â, rhyfeloedd cartref, trais gwleidyddol, terfysgoedd a gwrthdaro sifil, ac hil-laddiad yn y byd datblygol.

Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, enillodd y cyn-weriniaethau eu hannibyniaeth ac aeth y llywodraethau ati, fel rheol, i gysylltu buddiannau'r genedl-wladwriaeth ag hunaniaeth y grŵp ethnig mwyafrifol neu'r genedl titiwlar. Achoswyd rhyfeloedd rhwng cenedlaetholdebau ethnig yn y Cawcasws, ac yn ddiweddarach yn y Balcanau wrth i Iwgoslafia chwalu. Parheir ymwahaniaeth ac iredentiaeth ethnig o hyd yn achos gwrthdaro yn yr 21g, yn Georgia yn 2008 a'r Wcráin yn 2014. Mae rhai cenedlaetholdebau yn Ewrop a fu yn draddodiadol ar sail ethnigrwydd bellach yn cofleidio syniad o genedligrwydd sifig, diwylliannol.

Mae cenedlaetholdeb croenddu a chenedlaetholdeb croenwyn yn pwysleisio hil yn hytrach na grwpiau ethnig unigol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Graham Evans a Jeffrey Newnham, The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain: Penguin, 1998), t. 154.