Neidio i'r cynnwys

Charles Herbert James

Oddi ar Wicipedia
Charles Herbert James
Ganwyd16 Mehefin 1817 Edit this on Wikidata
Bu farw3 Hydref 1890 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • W Goulstone's Boarding School for Young Gentlemen Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd Charles Herbert James (16 Mehefin 181710 Hydref 1890) yn gyfreithiwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a chynrychiolodd Merthyr Tudful fel Aelod Seneddol rhwng 1880 a 1888.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd James ym Merthyr ym 1817 yn drydydd mab i William James, ceidwad siop, a Margaret ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn yr Eglwys Wladol ym Merthyr ar 13 Gorffennaf 1817.[1]

Cafodd ei addysgu yn ysgol Taliesin Williams (mab Iolo Morgannwg) cyn symud i ysgol ym Mryste.[2] Bu'n astudio'r gyfraith fel efrydydd allanol ym Mhrifysgol Llundain gan raddio ym 1837.

Ym 1842 priododd a Sarah, Merch Thomas Thomas amaethwr a pherchennog cwmni sebon o Langatwg (cyfnither iddo) a bu iddynt 9 o blant saith mab a dwy ferch [3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi gorffen ei addysg aeth James i weithio fe clerc erthyglau yng nghwmni cyfreithiol Perkins, Merthyr gan ddod yn bartner yn y cwmni ar ôl iddo gymhwyso fel cyfreithiwr. Wedi ymddeoliad Mr Perkins daeth Charles James a'i gefnder Frank James yn gyd perchenogion y cwmni gan newid ei enw i C H & Frank James. Roedd cwmni James yn arbenigo yn y gyfraith yn ymwneud a'r diwydiant glo.Yn ogystal â bod yn gyfreithiwr i'r diwydiant glo roedd James hefyd yn berchennog ar byllau glo gan gynnwys rhai ar stadau'r Brithdir, Gelligaer a Llannerch, Pont y Pŵl.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Safodd James fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Bwrdeistref Merthyr Tudful yn etholiad cyffredinol 1880 gan lwyddo i gael ei ethol fel yr ail aelod gyda'i gyd ymgeisydd Rhyddfrydol Henry Richard yn cipio'r safle cyntaf. Cafodd Richard a James eu hail ethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau 1885 a 1886. Fe ymddiswyddodd o'r senedd am resymau teuluol ym 1888.[4]

Roedd James yn cael ei ystyried yn aelod seneddol radical, yn ddadleuydd rhugl ac yn areithiwr huawdl, ond tueddai i'w doniau cael eu cuddio o dan gysgod ei gyd aelod.

Gyrfa gyhoeddus[golygu | golygu cod]

Roedd James yn gefnogwr brwd i bob ymgyrch i ledaenu addysg ym mysg y dosbarth gweithiol. Fe fu yn flaenllaw yn y mudiad i sicrhau bod ysgolion anenwadol (British Schools) yn cael eu hadeiladu yn y Gymru anghydffurfiol er mwyn sicrhau nad oedd orfodaeth i blant o gefndiroedd anghydffurfiol yn cael eu hanfantais trwy orfod mynychu ysgolion Eglwysig (National Schools). Ef oedd yn bennaf gyfrifol am sicrhau codi'r British School yn Abermorlais[5] . Bu yn gefn i ysgol waddoledig Gelligaer ac yn aelod o fwrdd ysgolion Merthyr. Bu yn Llywodraethwr Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Llundain.

Roedd James yn aelod o enwad yr Undodiaid, gan wasanaethu fel athro ysgol Sul a chodwr canu ei gapel undodaidd lleol a gan wasanaethu am gyfnod fel llywydd Undeb yr Undodiaid.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref, Brynteg, Merthyr yn 73 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Y Cefn, Merthyr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofrestr Bedyddiadau Merthyr Tydfil 1817 t128 cofnod 1021 (Gwasanaethau Archifau Cymru)
  2. Cardiff Times 11 Hydref 1890 Death of Mr C H James, Merthyr [1] adalwyd 27 Mehefin 2015
  3. Evening Express 11 Mawrth 1897 The Death of Mrs James Merthyr [2] adalwyd 27 Mehefin 2015
  4. Llan 10 Hydref 1890 Marwolaeth Mr C H James Merthyr Tydfil [3] ]] adalwyd 27 Mehefin 2015
  5. Aberdare Times 11 Hydref 1890 Death of Mr Chas Herbert James [4] adalwyd 27 Mehefin 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Richard Fothergill
Aelod Seneddol Bwrdeistref Merthyr Tudful
18801888
Olynydd:
David Alfred Thomas