Neidio i'r cynnwys

Ci Hela Dyfrgwn

Oddi ar Wicipedia
Ci Hela Dyfrgwn
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darluniad o Gi Hela Dyfrgwn ar y trywydd, mewn llyfr o 1919

Ci hela sy'n tarddu o Loegr yw'r Ci Hela Dyfrgwn. Cafodd ei fridio, o bosib yn y 14g yn gyntaf, i hela dyfrgwn ar draws caeau ac yn y dŵr. Mae ganddo draed gweog, sydd o fudd iddo wrth nofio. Defnyddir y Ci Hela Dyfrgwn hyd heddiw, yn amlach fel ci fferm neu anifail anwes ac yng Ngogledd America i hela racwniaid.

Mae'n edrych yn debyg i waetgi â blew gwrychog, gyda phen mawr a chlustiau llipa. Mae ganddo gôt drwchus, ddiddos, sydd yn cynnwys isflew crych a chôt uchaf o flew bras. Mae'r mwyafrif o Gŵn Hela Dyfrgwn o liw gwyn a llwyd neu lasddu, a cheir hefyd rhai sydd yn felynddu neu'n ddu a melyn. Saif tua 61 i 69 cm, ac yn pwyso rhyw 36 i 52 kg.