Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn.

Oddi ar Wicipedia

Mae Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn, yng Nghyd a Chasgliad o'i Bregethau a'i Draethodau gan y Parch Griffith Williams, Talsarnau [1] yn gofiant a gyhoeddwyd gan Argraffwasg Hughes a'i Fab, Wrecsam ym 1873.[2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfrol yn adrodd hanes Y Parch Richard Humphreys, Dyffryn (1790-1863),[3] gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a anwyd yn Nyffryn Ardudwy a bu farw ym Mhennal.

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Mae'r cofiant yn sôn am hanes fywyd Humphreys fel bachgen ffarm yn Ardudwy. Mae adroddiad am farw ei mam pan oedd yn 8 a'i dad pan oedd yn 15 a sut bu'n rhaid iddo ysgwyddo'r baich o gynnal y ffarm a'i dau frawd a thair chwaer iau ac yntau dim ond yn laslanc ei hun. Mae'r cofiant yn cynnwys trafodaeth fanwl at ddyfodiad Humphreys at grefydd a sut y bu iddo gael ei godi'n flaenor, yn bregethwr lleyg ac wedyn yn weinidog yn groes i'w dymuniad. Mae adroddiadau am ei waith fel gweinidog yr Efengyl ym mro ei febyd a'i ymroddiad i achosion addysg, dirwest a chodi capeli. Mae yma ymdriniaeth am ei gysylltiadau teuluol gan gynnwys hanes ei ddwy briodas a'r trallod o golli ei wraig gyntaf a dwy o'i ferched. Wedi'r bennod olaf hunangofiannol, sy'n ymdrin â chystudd olaf, marwolaeth a chladdedigaeth Humphreys ceir atodiadau yn cynnwys enghreifftiau o'i bregethau a'i draethodau.

Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[4]

Penodau[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:

  1. PENNOD I Mr. Humphreys a'i Ddyddiau Boreuol
  2. PENNOD II. Mr. Humphreys a'i Dueddiadau Crefyddol
  3. PENNOD III. Mr. Humphreys a'i Helyntion Teuluaidd
  4. PENNOD IV. Mr. Humphreys yn ei Gylchoedd Cyhoeddus
  5. PENNOD V. Mr. Humphreys a'i Gymydogion.
  6. PENNOD VI. Mr. Humphreys a Dirwest
  7. PENNOD VII. Mr. Humphreys a'i Gynghorion.
  8. PENNOD VIII. Mr. Humphreys a Dysgyblaeth Eglwysig
  9. PENNOD IX. Mr. Humphreys a'i Ffraetheiriau
  10. PENNOD X. Mr. Humphreys a'i Sylwadau
  11. PENNOD XI. Mr. Humphreys fel Gweddïwr
  12. PENNOD XII. Mr. Humphreys yn ei Ddyddiau Olaf

PREGETHAU[golygu | golygu cod]

  1. Eseia iv:9
  2. lago iii:17
  3. Psalm xcvii.:1
  4. Ezra i:3
  5. Luc xiv:22
  6. Diarhebion viii:21
  7. Colosiaid i:13
  8. Matthew xix:6
  9. Psalm cvii:8
  10. 1 Corinthiaid 2:9

TRAETHODAU[golygu | golygu cod]

  1. Hwda i ti, a moes i minau
  2. Tlodi
  3. Pobl y Mawr Gam
  4. Yr Hen Bobl
  5. Y Bobl Ieuaingc
  6. "Yr Hen a ŵyr, a'r leuangc a dybia"
  7. Balchder
  8. Prydlondeb
  9. Camgyhuddiadau
  10. Boddlonrwydd
  11. Siampl a Dynwarediad

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "WILLIAMS, GRIFFITH (1824 - 1881), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-10.
  2. Griffith Williams (1873). Cofiant am y parch. Richard Humphreys, Dyffryn. Yn nghyda chasgliad o'i ... Wrecsam: Hughes.
  3. "HUMPHREYS, RICHARD (1790 - 1863), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-10.
  4. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-12-11.