Damhliag, Sir Meath, Iwerddon

Oddi ar Wicipedia

Mae Damhliag neu Duleek yn Saesneg ( /dˈlk/ Irish </link> ) yn dref fechan yn Sir Meath, Iwerddon .

Daw'r enw o'r Gwyddeleg daimh liag, sy'n golygu tŷ o gerrig ac mae'n cyfeirio at eglwys gynnar, sef Eglwys Sant Cianán, ac mae adfeilion ohoni i'w gweld hyd heddiw yn Damhliag.

Yn unol â chyfrifiad 2022, cyrhaeddodd poblogaeth Damhliag 4,899, cynnydd deublyg ers 2002. Mae'r dref yn 8 km i'r de-orllewin o Droichead Átha/Drogheda, a 35 km i'r gogledd o ganol dinas Dulyn . Mae Damhliag mewn plwyf sifil o'r un enw. [1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Delwedd:Athcarne Castle 1820.jpg
Castell Áth Carn, Swydd Meath, 1820

Dechreuodd Damhliag fel anheddiad mynachaidd Cristnogol cynnar . Sefydlodd Sant Padrig esgobaeth yma tua 450 OC, ac fe'i roddwyd yng ngofal Sant Cianán ar 24 Tachwedd 489 . Cafodd y lle ei anrtheithio sawl gwaith gan y Llychlynwyr rhwng 830 a 1149, a chafodd ei ysbeilio hefyd gan y Normaniaid yn 1171 . Ym mis Ebrill 1014 gorweddai cyrff Brian Ború a'i fab dan eu crwys yn Damhliag ar eu ffordd i Ard Mhacha/Armagh . Dywedir mai'r anheddiad mynachlog gwreiddiol yw'r man lle treuliodd Sant Padrig a nifer o gyfoeswyr gyfnod y gaeaf wrth lunio'r Seanchas Mór - y ffurf ysgrifenedig gyntaf o Gyfreithiau Brehon hynafol Iwerddon yn y bumed ganrif. Yn ystod y 12fed ganrif ailgyfansoddwyd y fynachlog wreiddiol fel Abaty'r Santes Fair a gogynhwyswyd Esgobaeth Damhliag gan Esgobaeth Meath .

Sefydlodd Arglwydd Eingl-Normanaidd cyntaf Meath, Hugh de Lacy, faenor ac adeiladu castell mwnt yn Damhliag . Tua 1180 rhoddodd eglwys Sant Cianán, ynghyd â rhai tiroedd, i'r Awstiniaid . Mae mynwent eglwys Eglwys Iwerddon, nad yw bellach yn cael ei defnyddio, yn rhan o safle'r fynachlog gynnar. Ar ochr arall y pentref ar threfdir Fearann na Mainistreach/Abbeyland ger Afon Ainí a Thŷ Damhliag mae adfeilion Plasty San Mihangel. Sefydlwyd y plasty hon tua 1172 gan fynachod Awstinaidd o Landdewi Nant Hoddnu yn Sir Fynwy Cymru ; rhoddwyd y tiroedd iddynt gan deulu De Lacy. Mae pedair croes y pentref a phisgwydden ar lawnt y pentref yn ein hatgoffa o gysylltiadau Damhliag â’r frwydr rhwng William III a Iago II ac at aflonyddwch Ewropeaidd ehangach adeg Louis XIV o Ffrainc . Fodd bynnag, codwyd un o'r pedwar, y Wayward Cross, ym 1601 gan Janet Dowdall er cof am ei gŵr, Syr William Bathe o Gastell Áth Carn y tu allan i'r pentref. [2] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, neu'r Argyfwng, tarodd awyrennau bomio'r Almaen y pentref yn ddamweiniol ar 1 Ionawr 1941, gan achosi mân ddifrod heb anafiadau.

Mae Llwybr Treftadaeth Damhlaig yn cwmpasu nifer o safleoedd yng nghanol y pentref ac fe'i "cenhedlwyd fel cyfres o gerrig camu trwy'r pentref" a'i hanes. [3]

Y boblogaeth hanesyddol
BlwyddynPobl.±%
19911,718—    
19961,731+0.8%
20022,173+25.5%
20063,236+48.9%
20113,988+23.2%
20164,219+5.8%
20224,899+16.1%

Cludiant[golygu | golygu cod]

Rheilffordd[golygu | golygu cod]

Pont yn Boolies, Damhliag

Agorwyd gorsaf reilffordd Damhliag ar 1 Awst 1850, fel rhan o'r lein o Droichead Átha i An Uaimh/Navan (ac yn ddiweddarach i An Seanchaisleán/Oldcastle ). Caeodd ar 1 Mehefin 1958. [4] Mae trenau mwyn sinc o Tara Mines i Borthladd Dulyn yn parhau i basio drwy'r orsaf.

Ffordd[golygu | golygu cod]

Mae Damhliag ar y ffyrdd rhanbarthol R150 a R152 . Mae llwybrau rhanbarthol Bus Éireann yn gwasanaethu'r dref o Ddulyn a Droichead Átha. [5]

Pobl nodedig[golygu | golygu cod]

  • Mae Mick McGowan, chwaraewr dartiau.
  • Mae Keane Barry, chwaraewr dartiau.
  • Syr William Bathe, Castell Athcarne (bu farw 1597)
  • Frederick Smith, derbynnydd Croes Victoria
  • Kate Kennedy (addysgwr), eiriolwr hawliau menywod

Gweld hefyd[golygu | golygu cod]

  • Rhestr o drefi a phentrefi yn Iwerddon

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Damhliag/Duleek". Placenames Database of Ireland. Cyrchwyd 28 April 2024.
  2. Duleek Heritage Trail, Meath Tourism - Ireland, Accommodation, Holidays, Vacations, Golf, Fishing, Castles, Maps
  3. "Stepping Stones to Duleek's Past - Duleek Heritage Trail" (PDF). meathtourism.ie. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 15 March 2004.
  4. "Duleek station" (PDF). Railscot - Irish Railways. Cyrchwyd 2007-09-05.
  5. "Regional Services by County". Bus Éireann. Cyrchwyd 10 July 2019.