Defnyddiwr:Stefanik/Pwll Tywod
Cyflwynir Tlws Coffa Aled Roberts i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg.
Enwyd y Tlws ar ôl Aled Roberts, cyn bennaeth Cyngor Bwrdeistref Wrecsam, Aelod Cynulliad dros blaid y Democratiaid Rhyddfrydol ac yna Comisiynydd yr Iaith Gymraeg.
Cefndir[golygu | golygu cod]
Sefydlwyd y Tlws yn 2024 fel rhan o waddol Cronfa Coffa Aled Roberts oedd gwerth £24,000 ac yn cynnwys adnoddau Cymraeg a chefnogaeth ymarferol dysgu neu gwella Cymraeg tuag at y sector gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y Gymraeg i gleifion (fel Aled).[1][2]
Enillwyr[golygu | golygu cod]
2024 - Gwilym Roberts, Rhiwbeina, Caerdydd oedd enillyd cyntaf y Tlw. Yn ôl Llinos Roberts, gweddw Aled, roedd Gwilym yn “enghraifft berffaith” o rywun sydd wedi gweithio’n “ddiflino” yn helpu pobl i fagu hyder gyda’u Cymraeg. Cyhoeddwyd mai Gwilym Roberts oedd enillydd y tlws eleni yng nghynhadledd Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.[3]
Dolenni allannol[golygu | golygu cod]
- Gwilym Roberts o Gaerdydd yn ennill Tlws Coffa Aled Roberts gwefan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Mae cronfa gwerth £28,000 wedi ei sefydlu yn enw y diweddar Aled Roberts, cyn gomisiynydd y Gymraeg. Nod y gronfa yw hybu gofal diwedd oes yn Gymraeg". BBC Radio Cymru. 14 Mai 2024.
- ↑ "Cronfa goffa Aled Roberts". Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 14 Mai 2024.
- ↑ "Cyhoeddi enillydd tlws er cof am Aled Roberts". Newyddion S4C. 20 Mai 2024.