Desertmartin

Oddi ar Wicipedia
Desertmartin
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Derry
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Cyfesurynnau54.7667°N 6.6833°W Edit this on Wikidata
Map

Pentref bychan yn Swydd Derry/Londonderry, Gogledd Iwerddon, yw Desertmartin /ˌdɛzərtˈmɑːrtɪn/[1] o'r Wyddeleg Díseart Mhártain, a'i enw'n y Wyddeleg yn golygu "meudwy Sant Martin".[2][3] Mae'n bedair milltir o Magherafelt/Machair Fíolta, wrth droed Slieve Gallion. Yng Nghyfrifiad 2001 roedd gan ardal fwyaf Díseart Mhártain boblogaeth o 1,276. Mae'n gorwedd o fewn plwyf Díseart Mhártain, Dosbarth Mid-Ulster, a barwniaeth hanesyddol Loughinsholin/Loch Inse Uí Fhloinn. Ymhlith yr aneddiadau cyfagos mae Draperstown/Baile na Croise, Machair Fíolta, Moneymore/Muine Mór, a Tobermore/Tobar Mór.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cysegrwyd meudwy mynachaidd Díseart Mhártain yn wreiddiol i Sant Martin o Tours. Mae olion yr eglwys blwyf hynafol yn nhref-dir Knocknagin ar ochr ddwyreiniol y pentref.[2]

Pan grewyd Swydd Coleraine yn 1585, yr oedd ei gweinyddiad i fod i gael ei gyflawni yn nhref Coleraine/Cúil Ráithin. Fodd bynnag, adeiladwyd y carchar a'r llys yn Díseart Mhártain.[4]

Ar 19 Mai 1922, yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon, ymosododd tyrfa o undebwyr a Chwnstabliaid Gwirfoddol Ulster/Ulster Special Constables a llosgi llawer o gartrefi a busnesau Catholig yn Díseart Mhártain, i ddial am losgi melin oedd yn eiddo i'r undebwyr. Aeth Cwnstabliaid Gwirfoddol â phedwar o ddynion Catholig o’u cartrefi y tu allan i’r pentref a’u dienyddio’n ddiannod wrth ymyl y ffordd.[5]

Adeiladau crefyddol[golygu | golygu cod]

  • Sant Padrig, tref-dir* Keenaght (Catholig) (Hen Gapel).
  • Sant Padrig, tref-dir Keenaght (Catholig) (Capel Newydd).
  • Mae Eglwys y Santes Fair, tref-dir Eglwys Annagh a Moneysterlin (Catholig) a'r Parochial House gerllaw yn adeiladau tirnod. Cyfeirir ato'n gyffredin fel Coolcalm ar ôl yr hen dreflan o'r un enw, sydd bellach yn rhan o Annagh a Moneysterlin.
  • Eglwys y Nasaread (cangen o'r enwad o'r un enw yn seiliedig ar draddodiad Wesleaidd).
  • Mae Eglwys Sant Comgall (yr Eglwys Anglicanaidd yn Iwerddon) (Plwyf Desertmartin) yn adeilad o bwys gweledol a hanesyddol ac yn dirnod lleol. Adeiladwyd yr eglwys yn 1821 ac mae'n adeilad rhestredig. Lleolir Eglwys Sant Comgall ar Ffordd Dromore yn y pentref ac mae'n edrych allan dros fynydd golygfaol Slieve Gallion.[6]

Ysgolion[golygu | golygu cod]

  • Ysgol Gynradd St. Columb (Catholig)
  • Ysgol Gynradd Díseart Mhártain
  • Ysgol Gynradd Knocknagin (Catholig)

Cludiant[golygu | golygu cod]

Agorodd gorsaf reilffordd Díseart Mhártain rhwng Machaire Fíolta a Baile na Croise ar 20 Gorffennaf 1883, caewyd i deithwyr ar 1 Hydref 1930, a chaeodd yn gyfan gwbl ar 3 Gorffennaf 1950.[7]

Pobl[golygu | golygu cod]

Bardd, ysgrifydd, golygydd a darlithydd o bwys o Ogledd Iwerddon yw Tom Paulin (g. 1949), sydd wedi ysgrifennu cerdd o'r enw Desertmartin.

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

  • Cymdeithas Athletau Gaeleg St. Martin's Díseart Mhártain Clwb GAA St Martin's
  • Clwb Peldroed Díseart Mhártain

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gregory Toner, Place-Names of Northern Ireland (Queen's University of Belfast, 1996), t.85
  2. 2.0 2.1 "Place Names NI". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2024-04-22.
  3. Deirdre a Laurence Flanagan, Irish Place Names (Gill & Macmillan, 2002), t.202
  4. BBC Local History
  5. Pearse Lawlor, The Outrages: The IRA and the Ulster Special Constabulary in the Border Campaign (Mercier Press, 2011), tt.275-80
  6. Mae Iwerddon yn hanesyddol wedi defnyddio 'tref-diroedd' (townlands) fel eu mesur lleiaf o rannu tir yn weinyddol. Yng Ngwyddeleg, defnyddir baile fearainn sef "tref-dir".
  7. "Desertmartin station" (PDF). Railscot - Irish Railways. Cyrchwyd 2007-09-23.