Eglwys Gymyn

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Gymyn
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth432 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,238.03 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.766°N 4.566°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000502 Edit this on Wikidata
Cod OSSN230106 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Cymuned a phlwyf yn ne-orllewin Sir Gaerfyrddin yw Eglwys Gymyn. Ymestynna'r gymuned ar hyd yr arfordir at y ffîn a Sir Benfro. Mae'n cynnwys pentrefi Marros a Rhos-goch.

Ail godwyd Eglwys Gymun gan Margaret Marlos yn y 14g, a chafodd ei chysegru i'r Santes Margaret o'r Alban. Roedd y rheithor rhwng 1730 a 1782, John Evans, yn un o brif elynion Griffith Jones, Llanddowror a'r Methodistiaid. Roedd y Methodist Peter Williams yn gurad yma, ond diswyddodd John Evans ef.

Ceir nifer o siamberi claddu Neolithig a bryngaer o Oes yr Haearn o fewn y gymuned.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[2]

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 462.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Eglwys Gymyn (pob oed) (432)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Eglwys Gymyn) (111)
  
26.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Eglwys Gymyn) (285)
  
66%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Eglwys Gymyn) (47)
  
27%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]