Elin Haf
Elin Haf | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ysgrifennwr |
Nyrs a chwaraewraig Cymreig yw Elin Haf Davies, a adnabyddir gan amlaf fel Elin Haf. Mae'n gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru a chlwb London Wasps.[1] Ar y hyn o bryd mae'n gweithio fel Gweinyddwr Gwyddonol ar gyfer Asiantaeth Gwerthuso Moddion Ewrop.[2]
Yn un sy'n mwynhau sialens, mae wedi codi bron i £250,000 ar gyfer elusennau drwy gyflawni amryw o gampau. Ysgrifennodd gyfrol yn dilyn hanes ei anturiaethau yn rhwyfo ar draws Gefnfor yr Iwerydd, sef Ar Fôr Tymhestlog. Cyrrhaeddodd hwn restr hir gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2011.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Darren Devine (18 Tachwedd 2010). Elin Haf Davies tells of her restless drive for adventure. Western Mail.
- ↑ Elin Haf Davies. Linked In (18 Tachwedd 2010).
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Gwefan bersonol Elin Haf - nurseelin.co.uk Archifwyd 2011-01-26 yn y Peiriant Wayback.