Emily Newell Blair
Emily Newell Blair | |
---|---|
Ganwyd | 9 Ionawr 1877 Joplin, Missouri |
Bu farw | 3 Awst 1951 Alexandria, Virginia |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Priod | Harry W. Blair |
Plant | Newell Blair |
Ffeminist a swffragét Americanaidd oedd Emily Newell Blair (9 Ionawr 1877 - 3 Awst 1951) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei dros hymgyrchu dros bleidlais i ferched. Roedd yn un osefydlwyr Cynghress y Menywod dros Etholfraint (League of Women Voters).[1][2]
Fe'i ganed yn Joplin a bu farw yn Alexandria, Virginia i James Patton Newell ac Anna Cynthia Gray. Roedd yn wleidyddol iawn ei natur, ac roedd yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd.[3][4][5][6]
Magwareth[golygu | golygu cod]
Pan oedd yn blentyn ifanc, roedd Emily yn ddarllenydd brwd, ac yn awdur talentog. Roedd ganddi syniadau pendant a chredai nad oedd yn arbennig o boblogaidd gyda'i chyd-ddisgyblion na'i hathrawon. I wneud iawn am hyn, rhagorodd yn ei gwaith ysgol.[7]
Roedd ei mam, Anna Cynthia Gray, yn ferch i Elisha Burritt Grey a Margaretta Rachel McDowell. Roedd hi'n or-wyres i'r Parch. Blackleach Burritt ac yn un o ddisgynyddion y Llywodraethwr Thomas Welles a'r Parch. John Lothropp.[5][6]
Gwnaeth ei thad a oedd yn frodor o Franklin, Venango County, Pennsylvania ffortiwn, pan oedd yn ifanc iawn drwy gwmni torri a gwerthu coed a hefyd yn canfod a masnachu olew. Yn anffodus, archwiliodd am fwy o olew a chollodd ei arian.[8] Symudodd y teulu i Joplin, Missouri tua 1874 gyda thrwydded i ymarfer fel cyfreithiwr. Roedd yn fuddsoddwr yn y pwll glo lleol yn Joplin a gwasanaethodd hefyd fel Clerc y Llys Sirol yn Joplin. Yn 1883, cafodd ei ethol yn Gofiadur Gweithredoedd Sir Jasper, ac yna symudodd ei deulu i Carthage, bymtheg milltir i ffwrdd o Joplin. Gwasanaethodd hefyd gyda 30ain Troedfilwyr Gwirfoddol Iowa (30th Iowa Volunteer Infantry) fel is-gapten yn y Rhyfel Cartref.
Graddiodd yn 1894 yn Ysgol Uwchradd Carthage. Addysgwyd hi yng Ngholeg Goucher a Phrifysgol Missouri. Dychwelodd i Carthage ar ôl marwolaeth ei thad, cyn graddio, i helpu i gefnogi a gofalu am ei brawd a'i thair chwaer.
Priodi[golygu | golygu cod]
Priododd ar Ragfyr 24, 1900 yn Carthage, Jasper County, Missouri â Harry Wallace Blair, mab John Blair a Mary Jane Plttenger.[9] Ganed Harry ar 7 Gorffennaf 1877 yn Maryville, Missouri a bu farw yn [[Alexandria, Arlington County, Virginia ym 1964. Graddiodd yn 1904 yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol George Washington. Wrth fynychu ysgol y gyfraith, bu’n gweithio fel ysgrifennydd i'r Ysgrifennydd Llafur a Masnach George B. Cortelyou. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwasanaethodd yn Ffrainc gyda'r Young Men's Christian Association. Ar ôl y rhyfel, dychwelodd i'r Unol Daleithiau ac o 1919 i 1933, bu'n ymarfer y gyfraith yn Joplin, Missouri.
Gyrfa ac ymgyrchu[golygu | golygu cod]
Daeth Blair yn swffragét gweithgar iawn. Yn 1914, daeth yn gadeirydd cyhoeddusrwydd Missouri Equal Suffrage Association a golygydd cyntaf ei chyhoeddiad misol, Missouri Woman.[10]
Ar ôl i'r Unol Daleithiau ymuno â'r Rhyfel Byd Cyntaf, daeth Blair yn is-gadeirydd Pwyllgor Menywod Missouri o'r Cyngor Amddiffyn.
Roedd hi wedi bod yn un o sylfaenwyr Cynghress y Menywod dros Etholfraint, ond sylweddolodd fod menywod wedi colli mantais wleidyddol ers ennill y bleidlais.
Er bod ganddyn nhw'r hawl i bleidleisio, roedden nhw'n tueddu i beidio â phleidleisio mewn carfanau effeithiol. Dadleuodd Blair y byddai'n rhaid i ferched drefnu a chefnogi ymgeiswyr benywaidd cryf am swydd a allai arwain y galw am gydraddoldeb. O ganlyniad, trefnodd fwy na 2,000 o Glybiau Democrataidd i Fenywod ledled y wlad ac adeiladodd raglenni hyfforddi rhanbarthol ar gyfer gweithwyr benywaidd. Gwasanaethodd gyntaf fel ysgrifennydd (1922–1926) ac yna'n ddiweddarach fel llywydd (1928–1929) Clwb Democrataidd Cenedlaethol y Fenyw, a hi oedd prif sylfaenydd y clwb.[11]
Anrhydeddau[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Stuber, Irene. "Women of Achievement and Herstory". the liz library. Cyrchwyd 5 Awst 2009.
- ↑ "Women's National Democratic Club: Our Proud Heritage". Women's National Democratic Club. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Chwefror 2009. Cyrchwyd 5 Awst 2009. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Dyddiad geni: "Emily Newell Blair". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Emily Newell Blair". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Emily Newell Blair". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Emily Newell Blair". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ 5.0 5.1 Raymond, 64
- ↑ 6.0 6.1 Jordan, 372
- ↑ Laas, xii
- ↑ Laas, 3
- ↑ Laas, xxiii–91
- ↑ "Notes and Comments," Missouri Historical Review [1930 – 1931]:649)
- ↑ McArthur, 118–119–124–125–126–127–128