Neidio i'r cynnwys

Grŵp Rhyngwladol dros Hawliau Lleiafrifol

Oddi ar Wicipedia
Grŵp Rhyngwladol dros Hawliau Lleiafrifol
Enghraifft o'r canlynolcarfan bwyso Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1960 Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.minorityrights.org/ Edit this on Wikidata

Sefydliad hawliau dynol rhyngwladol yw Grŵp Rhyngwladol dros Hawliau Lleiafrifol (Minority Rights Group International, neu MRG) a sefydlwyd gyda'r nod o weithio i sicrhau hawliau i leiafrifoedd ethnig, cenedlaethol, crefyddol, ieithyddol a phobl frodorol ledled y byd. Mae eu pencadlys yn Llundain, ac mae ganddynt swyddfeydd eraill yn Budapest a Kampala. Mae gan MRG Gyngor llywodraethu rhyngwladol sy'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn yn ogystal a statws ymgynghorol gyda Chyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig (ECOSOC) a statws sylwedydd gyda Chomisiwn Affrica ar Hawliau Dynol a Hawliau Pobl.[1]

Fe'i sefydlwyd y ym 1969 gan grŵp o weithredwyr ac academyddion er mwyn “amddiffyn hawliau lleiafrifoedd i gydfodoli â mwyafrifoedd, trwy astudiaeth wrthrychol ac amlygiad cyhoeddus rhyngwladol cyson o droseddau hawliau sylfaenol fel y’u diffinnir gan Siarter y Cenhedloedd Unedig[2]

Ei gyfarwyddwr cyntaf oedd David Astor, golygydd a pherchennog papur newydd The Observer ar y pryd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. minorityrights.org; adalwyd 14 Rhagfyr 2022
  2. Datganiad o nodau sylfaenol y Grŵp Rhyngwladol dros Hawliau Lleiafrifol
  • Barsilai, Gad. Cymunedau a'r Gyfraith: Gwleidyddiaeth a Diwylliannau Hunaniaethau Cyfreithiol (Ann Arbor: Gwasg Prifysgol Michigan, 2003).ISBN 978-0-472-03079-8

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]