Gwäell asgell aur

Oddi ar Wicipedia
Sympetrum flaveolum
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Teulu: Libellulidae
Genws: Sympetrum
Rhywogaeth: S. flaveolum
Enw deuenwol
Sympetrum flaveolum
(Linnaeus, 1758)

Gwas neidr o deulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr') yw'r Gwäell asgell aur (Lladin: Sympetrum flaveolum; lluosog: gweyll asgell aur). Dyma'r teulu mwyaf o weision neidr drwy'r byd, gyda dros 1,000 o rywogaethau gwahanol. Mae i'w ganfod yn Ewrop a chanol a gogledd Tsieina yn ogystal â gwledydd Prydain, fel gwas neidr mudol. Mae wedi'i weld yng ngwledydd Prydain (mewn niferoedd) yn 1906, 1926, 1945, 1953, a 1995.

Mae hyd ei adenydd yn 37mm ac mae'n hedfan rhwng Gorffennaf ac Awst ger llwyni, coed, llysdyfiant a phlanhigion eraill ar lanau llynnoedd llonydd a phyllau dŵr. Fel arfer ceir brwyn ar lanau'r pyllau.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]