Gwas neidr coes felen
Gwas neidr coes felen | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Teulu: | Gomphidae |
Genws: | Gomphus |
Rhywogaeth: | G. flavipes |
Enw deuenwol | |
Gomphus flavipes Charpentier, 1825 | |
Cyfystyron | |
Stylurus flavipes |
Gwas neidr o deulu'r Gomphidae yw Gwas neidr coes felen (enw gwrywaidd; llu. gweision coes felen; Lladin: Gomphus flavipes; Saesneg: river clubtail) sy'n bryfyn yn Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a'r Mursennod).
Gellir ei ganfod yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop: o Ffrainc i ddwyrain Siberia. Ei gynefin arferol yw afonydd glân, araf, yn enwedig rhai gyda gwely o fwd, pridd neu dywod mân er mwyn i'r fenyw ddodwy ynddo. Ar adegau prin, mae hefyd i'w weld ar lannau llynnoedd. Eu bwyd arferol yw pryfaid bychan.
Morffoleg[golygu | golygu cod]
Mae'r Gwas neidr coes felen yn ganolig ei faint: 50–55 mm ac mae ganddo adenydd rhwng 70–80 mm. Mae'r ddau lygad ar wahân i'w gilydd. fel yr awgryma'r enw, coesau melyn sydd gan y gwryw a'r fenyw.
-
Gwryw ifanc
-
Benyw
-
Benyw
-
Benyw
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- "Gomphus vulgatissimus". British Dragonfly Society. Cyrchwyd 28 Mai 2011.