Jak Jones

Oddi ar Wicipedia
Jak Jones
Ganwyd29 Gorffennaf 1993 Edit this on Wikidata
Cwmbrân Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr snwcer Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr snwcer o Gymro yw Jak Jones (ganwyd 29 Gorffennaf 1993). Cafodd ei eni yng Nghwmbran.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Daeth Jones yn chwaraewr proffesiynol yn 2010 yn 16 oed, trwy ennill Pencampwriaeth Snwcer Ewropeaidd 2010 dan 19 ym Malta.[1] Yn ei flwyddyn gyntaf ar y daith proffesiynol, enillodd Jones un gêm yn unig.[2][3] Gorffennodd ei dymor cyntaf yn safle rhif 94 y byd. Cafodd ei ddiswyddo o'r daith gan na orffennodd yn y 64 uchaf.[2][4]

Pencampwriaeth Snwcer y Byd[golygu | golygu cod]

Yn 2024 cyrhaeddodd rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd, a gynhaliwyd yn y Crucible yn Sheffield ar 5 a 6 Mai 2024. Ar y pryd roedd yn safle 44 yn rhestr detholion y byd. Er mwyn cyrraedd y ffeinal curodd Zhang Anda, Si Jiahui, Judd Trump a Stuart Bingham.[5]

Chwaraeodd Jones yn erbyn Kyren Wilson yn y ffeinal. Er yr oedd Jones yn colli 7-1 ar ôl y sesiwn gyntaf, brwydrodd yn ôl i 15-10 erbyn prynhawn Llun. Yn y pendraw enillodd Wilson o 18-14 ffrâm. Cafodd Jones ail wobr o £200,000 a dringodd o safle 44 i 14.[6]

Beirniadodd dau o wrthwynebwyr coll Jones, Judd Trump a Stuart Bingham, ei arddull chwarae, gan gwyno am ei agwedd dactegol. Atebodd Jones fod y sylwadau yn esgus.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "2010 European Under 19 Championship". Global Snooker. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mai 2014. Cyrchwyd 14 Mehefin 2013.
  2. 2.0 2.1 "Jak Jones 2010/2011". Snooker.org. Cyrchwyd 14 June 2013.
  3. "Order of Merit 2010/2011" (yn Saesneg). Snooker.org. Cyrchwyd 14 Mehefin 2013.
  4. "Rankings after 2011 World Championship" (PDF). worldsnooker.com (yn Saesneg). World Professional Billiards and Snooker Association. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 14 Mehefin 2012. Cyrchwyd 4 Mai 2011.
  5. "Jak Jones drwodd i rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd". BBC Cymru Fyw. 2024-05-04. Cyrchwyd 2024-05-04.
  6. "Jak Jones: 'Ddois i'n agos y tro hwn - wna'i ennill yn y dyfodol'". BBC Cymru Fyw. 2024-05-07. Cyrchwyd 2024-05-07.
  7. Steve Sutcliffe (5 Mai 2024). "Jones calls criticism of playing style 'pathetic'". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Mai 2024.