James Szlumper

Oddi ar Wicipedia
James Szlumper
Ganwyd29 Ionawr 1834 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
Bu farw27 Hydref 1926 Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd sifil, barnwr, peiriannydd Edit this on Wikidata
SwyddDirprwy Raglaw Edit this on Wikidata
Adnabyddus amWalnut Tree Viaduct Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Peiriannydd sifil oedd Syr James Szlumper (29 Ionawr 183426 Hydref 1926). Ganwyd yn Soho, Llundain. Gweithiodd ar sawl rheilffordd, gan gynnwys y Rheilffordd danddaearol Llundain, Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, Rheilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau, Rheilffordd Lynton a Barnstaple, Rheilffordd Y Barri[1] a Rheilffordd Dyffryn Rheidol[2]. Gweithiodd ar reilffyrdd eraill yn Ne Cymru, Sir Drefaldwyn a Dyfnaint[3]

Daeth y teulu Szlumper o'r Wlad Pwyl yn wreiddiol. Roedd Alfred Weeks Szlumper a Gilbert Savill Szlumper yn beirianwyr hefyd.[3]

Daeth yn faer Richmond ym 1894 ac Uchel-Syrif Sir Geredigion ym 1898.[1] Bu farw yn Kew.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Gwefan Steamindex
  2. Cambrian News 20 Medi 2013
  3. 3.0 3.1 "Gwefan ArchivesWales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-08-11.