Neidio i'r cynnwys

Janet ac Allan Ahlberg

Oddi ar Wicipedia

Darlunwyr llyfrau plant Seisnig yw Janet Ahlberg ac Allan Ahlberg. Mae eu llyfrau'n aml yn ymddangos ar restrau llyfrau poblogaidd llyfrgelloedd.[1] Roeddent yn ŵr a gwraig, a gweithiont ar y cyd am 20 mlynedd tan i Janet farw o gancr ar 13 Tachwedd 1994, yn 50 oed.[2] Allan oedd awdur y llyfrau tra darluniwyd hwy gan Janet.[2]

Ganed Allan Ahlberg yn Croydon, tu allan i briodas, ym 1938. Cafodd ei fabwysiadu a'i fagu yn Oldbury, Black Country.[2][3] Mae'n gefnogwr West Bromwich Albion F.C..

Ganed Janet (née Hall) ym 1944 a magwyd yng Nghaerlŷr.[3] Cyfarfodd y ddau pan oeddent ar gwrs hyfforddi athrawon yng Ngholeg Dechnegol Sunderland a priodasont ym 1969.[3]

Cyhoeddont eu tri llyfr cyntaf, un ar ôl y llall, sef The Old Joke Book, The Vanishment of Thomas Tull a Burglar Bill a ddaeth yn boblogaidd iawn.[3] Ym 1978, enillodd Janet Fedal Kate Greenaway am ddarlunio Each Peach Pear Plum.[3]

Gwerthodd un o'u llyfrau mwyaf poblogaidd, The Jolly Postman, dros 6 miliwn o gopïau. Ynghyd a'r dilyniant, The Jolly Pocket Postman a The Jolly Christmas Postman, gwnaeth ddefnydd arloesol o amlenni yn y llyfrau i gynnwys, llythyron, cardiau, gemau, a llyfr bychan.[2] Cymherodd pum mlynedd i'w greu, ond wedi trafod helaeth gyda'r argraffwyr a'r cyhoeddwyr, cyhoeddwyd The Jolly Postman ym 1986. Enillodd nifer o wobrau, gan gynnwys Medal Kate Greenaway a Gwobr Kurt Maschler.[3]

Gan weithio ar y cyd, crëond nifer o lyfrau poblogaidd ar gyfer plant, rhai, megis Peepo! a The Baby's Catalogue wedi eu hanelu at fabanod. Ar gyfer plant hyn, roedd Burglar Bill, Cops and Robbers, Funnybones a chyfres Happy Families. Ysgrifennodd Allan ddwu gyfrol o gerddi yn ogystal, sef Heard it in the Playground a Please, Mrs Butler, a darluniodd Janet rhain hefyd, ysgrifennodd lyfrau mwy dwys yn eu testun hefyd, megis Woof!.[1][3]

Llyfryddiaeth Allan Ahlberg[golygu | golygu cod]

  • The Woman who Won Things (2002)
  • The Baby in the Hat (19??)
  • The Better Brown Stories (19??)
  • The Boy, the Wolf, the Sheep and the Lettuce: A Little Search for Truth??? (19??)
  • The Cinderella Show (19??)
  • Friendly Matches (19??)
  • The Giant Baby (19??)
  • Heard it in the Playground (1989)
  • The Improbable Cat (19??)
  • Janet's Last Book (19??)
  • My Brother's Ghost (19??)
  • The Night Train (19??)
  • The Pencil (19??)
  • Please Mrs. Butler (1983)
  • Previously (2007)
  • The Snail House (19??)
  • Woof! (1986)

Llyfryddiaeth ar y cyd[golygu | golygu cod]

  • Baby Sleeps (1998)
  • The Baby's Catalogue (1982)
  • The Bear Nobody Wanted (1992)
  • Blue Buggy (1998)
  • Burglar Bill (1977)
  • Bye Bye Baby (1989)
  • The Cinderella Show (1986)
  • The Clothes Horse and Other Stories (1987)
  • Cops and Robbers (1978)
  • Doll and Teddy (1998)
  • Each Peach Pear Plum (1978)
  • Funnybones (1980)
  • The Ha Ha Bonk Book (1982)
  • It Was a Dark and Stormy Night (1993)
  • Jeremiah in the Dark Woods (1977)
  • The Jolly Postman (1986)
  • The Jolly Pocket Postman (1995)
  • The Jolly Christmas Postman (1991)
  • Peepo! (1981)
  • See the Rabbit (1998)
  • Starting School (1988)
  • The Little Worm Book (1979)

Gweithiau wedi cyfieithu o ieithoedd eraill[golygu | golygu cod]

  • Starting School - French: Le livre de tous les écoliers.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Janet and Allan Ahlberg Bibliography of First Editions at Bookseller World". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-11. Cyrchwyd 2011-06-11.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Interview: Allan Ahlberg | Family | Guardian Unlimited
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6  Allan Ahlberg - Penguin UK Authors. Penguin UK.