John Roderick Rees
John Roderick Rees | |
---|---|
Ganwyd | 1920 Tregaron |
Bu farw | Hydref 2009 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, athro |
Bardd ac athro oedd John Roderick Rees (1920 – 12 Hydref 2009).[1] Ef oedd un o dim ond dau fardd sydd wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy flynedd yn olynol ers yr Ail Ryfel Byd, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanbedr Pont Steffan 1984 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Rhyl 1985.[1]
Roedd yn byw ym Mhenuwch, get Tregaron, Ceredigion a bu'n athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Tregaron.[1]
Dilynodd Rees ei dad, a'i daid fel bridiwr meirch cob, gan etifeddu Rhosfarch Frenin ger Tregaron, ac arwain llinach eu meirch cob i'w chanfed flwyddyn.[2]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Cerddi John Roderick Rees, 1984 (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Celebrated eisteddfod poet dies. BBC (12 Hydref 2009).
- ↑ REES, THOMAS (1862-1951). Bywgraffiadur Ar-lein.