Juan Antonio Flecha

Oddi ar Wicipedia
Juan Antonio Flecha
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnJuan Antonio Flecha Giannoni
LlysenwThe Spanish Flandrian
Van der Flecha
Jan Anton Pijl
Dyddiad geni (1977-09-17) 17 Medi 1977 (46 oed)
Taldra1.81 m (5' 11")
Pwysau72 kg
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Math seiclwrArbennigwr y clasurom
Tîm(au) Proffesiynol
2004–2005
2006–2009
2010–
Fassa Bortolo
Rabobank
Team Sky
Golygwyd ddiwethaf ar
17 Gorffennaf 2011

Seiclwr proffesiynol Sbaenaidd a aned yn yr Ariannin ydy Juan Antonio Flecha Giannoni (ganed 17 Medi 1977), ar hyn y bryd mae'n reidio dros Team Sky.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganed yn Junín, Buenos Aires. Daeth Flecha yn adnabyddus yn 2003, pan ddaeth y reidiwr cyntaf i gael ei eni yn yr Ariannin i ennill cymal o'r Tour de France. Roedd yn reidio dros iBanesto.com ar y pryd. Wrth iddo groesi'r linell, fe feimiodd sethu saeth o fwa fel saliwt buddugoliaeth, gan mai ystyr ei enw deuluol, Flecha, yw "saeth".

Bu'n gyd-arweinydd y tîm Eidalaidd Fassa Bortolo ar gyfer y rasus un dydd a'r clasuron yn nhymor 2004, gan orffen mewn safleoedd da. Yn enwedig yn y Ronde van Vlaanderen, Paris–Roubaix a'r Liège–Bastogne–Liège, ac ennill y Züri-Metzgete a'r Giro del Lazio. Bu'n aml yn rhannu'r gwaith o arwain y tîm gyda'r reisiwr o'r Swistir, Fabian Cancellara.

Yn 2005, gorffennodd ar y podiwn yn Gent–Wevelgem a Paris–Roubaix, gan sefydlu enw i'w hun fel un o'r reidwyr gorau yn yr UCI ProTour heddiw. Mewn cyfweliad, dywedodd reidiwr dros Euskaltel-Euskadi, Egoi Martínez, mewn teyrnged i ddyfalbarhad ac agwedd Flecha, y dylai un gael pen ac agwedd fel Flecha mewn ras.

Symudodd Flecha i'r tîm Iseldiraidd Rabobank yn 2006, wedi i dîm Fassa Bortolo ddod i ben. Yn 2007, gorffennodd Flecha yn ail yn ras o fri y Paris–Roubaix. Ni gafodd unrhyw fuddugoliaethau yn ystod tymor 2009, felly gwrthododd Flecha arwyddo cytundeb newydd gyda Rabobank, gan deimlo ei fod yn hen bryd iddo gael sialens newydd.

Mae wedi redio dros Team Sky ers ei sefydliad yn 2010. Enillodd ei ras un dydd cyntaf y flwyddyn honno, yr Omloop Het Nieuwsblad, a cysegrodd y fuddugoliaeth iw dîm a'i gyn cyd-aelod tîm Frank Vandenbroucke a fu farw yn Hydref 2009. Yng nghymal 9 Tour de France 2011, bu Flecha mewn damwain wedi iddo a Johnny Hoogerland gael eu trywanu gan gar France Télévisions. Cododd ar ei draed a parhaodd i reidio wrth iddo dderbyn triniaeth iw benelin. Rhannodd wobr brwydrol y cymal hwnnw gyda Hoogerland.[1] Gwrthododd Flecha fynd ar y podiwm i dderbyn y wobr ond fe wisgodd y rhif coch y diwrnod canlynol.

Palmarès[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]