Leslie Patrick Abercrombie

Oddi ar Wicipedia
Leslie Patrick Abercrombie
Ganwyd6 Mehefin 1879 Edit this on Wikidata
Ashton on Mersey Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mawrth 1957 Edit this on Wikidata
Aston Tirrold Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpensaer, cynlluniwr trefol, bardd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auMedal Aur Frenhinol, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Roedd Syr Leslie Patrick Abercrombie (6 Mehefin 187923 Mawrth 1957) yn gynllunydd tref Prydeinig ac yn bensaer, sydd fwyaf adnabyddus am ei gynlluniau i ddatblygu Llundain wedi’r Ail Ryfel Byd, The Greater London Plan[1].

Ganwyd yn Ashton-upon-Mersey, derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Lerpwl, lle daeth yn athro dylunio dinesig rhwng 1915 a 1935. Yna symudodd i Goleg y Brifysgol, Llundain, lle bu'n athro cynllunio tref o 1935 i 1946. Enillodd gystadleuaeth ym 1913 am ailgynllunio canol ddinas Dulyn ac fe ysgrifennodd y gwerslyfr safonol Town and Country Planning (1933). Ehangwyd ei gynllun cyntaf i ddatblygu Llundain, sef The County of London Plan (gyda JH Forshaw, 1943), ym 1944, gyda chymorth tîm o arbenigwyr, i the Greater London Plan, a oedd yn berthnasol i gynllunio cludiant, dosbarthiad poblogaeth, diwydiant, gwregys gwyrdd, a mwynderau eraill Llundain Fwyaf. Paratôdd gynlluniau ar gyfer trefi a rhanbarthau eraill yn y DU, gan gynnwys Caeredin, Plymouth, Kingston upon Hull, Caerfaddon, Bryste, Sheffield, Bournemouth, a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Fe'i hurddwyd yn farchog yn 1945.

Ef oedd pensaer adeiladau Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (Prifysgol Glyndŵr bellach), yn Wrecsam.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. A Dictionary of Twentieth Century Biography, gol. Asa Briggs (Rhydychen, 1993)