Llabedlys Taylor

Oddi ar Wicipedia
Llabedlys Taylor
Mylia taylorii

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Myliaceae
Genws: Mylia
Rhywogaeth: M. taylorii
Enw deuenwol
Mylia taylorii

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llabedlys Taylor (enw gwyddonol: Mylia taylorii; enw Saesneg: Taylor's flapwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru. Mae Llabedlys taylor (M. taylorii) i'w gael mewn ardaloedd mynyddig yng ngogledd Ewrop, mynyddoedd Cyfandir Ewrop, yr Ynys Las a dwyrain Gogledd America o Newfoundland i Tennessee. Maehefyd yn tyfu yng ngorllewin Gogledd America a dwyrain Asia. Ond mae M. taylorii yn fwyaf cyffredin yng ngwledydd Prydain a Sgandinafia.

Mae Llabedlys Taylor yn ffurfio matiau trwchus neu dyfiant hemisfferig o egin fertigol sydd ag ymddangosiad chwyddedig, llysnafeddog pan fyddant yn llaith.

Ceir arlliw melyn-wyrdd i'r egin, gyda gyda gwawr brown neu goch iddynt. Mae'r dail hyd at 2.4 mm o hyd ac yn 3 – 8 cm o uchder.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Llabedlys Taylor gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.