Lleucu Roberts

Oddi ar Wicipedia
Lleucu Roberts
Ganwyd27 Medi 1964 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethawdur plant, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdures plant Cymreig yw Lleucu Roberts (ganed 27 Medi 1964). Ganwyd Lleucu yn Aberystwyth a chafodd ei magu yn ardal Bow Street, Ceredigion, erbyn hyn mae hi'n byw yn Rhostryfan, Gwynedd.[1] Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Rhydypennau, Ysgol Gyfun Penweddig a Phrifysgol Aberystwyth. Mae hefyd yn sgriptio ar gyfer y radio a'r teledu. Mae'n briod â dwy ferch a dau fab.

Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, y person cyntaf i gipio'r ddwy brif wobr ryddiaith yn yr un flwyddyn.[2] Enillodd y Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith am yr eildro yn Eisteddfod AmGen 2021 am ei nofelau Hannah-Jane a Y stori Orau.[3] [4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gwobrau ac Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Annwyl Smotyn Bach. Gwales.com. Adalwyd ar 12 Mai 2011.
  2. Y Dwbl i Lleucu golwg360.com 6 Awst 2104
  3. Lleucu Roberts yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen , BBC Cymru Fyw, 3 Awst 2021.
  4. Y dwbl i Lleucu Roberts wrth ennill y Fedal Ryddiaith , BBC Cymru Fyw, 5 Awst 2021.