Machynlleth

Oddi ar Wicipedia
Machynlleth
Mathcymuned, tref Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,235, 2,163 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.591°N 3.849°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000326 Edit this on Wikidata
Cod OSSH745005 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Tref a chymuned yng ngogledd-orllewin Powys, Cymru, yw Machynlleth[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ger aber Afon Dyfi. Mae ganddi boblogaeth o 2,235 (2011),[3] 2,163 (2021)[4]. Ei hadeilad enwocaf yw Senedd-dy Owain Glyn Dŵr. Mae marchnad bwysig yn y dref pob dydd Mercher.

Mae gan y dref glwb pêl-droed ers 1885, C.P.D. Machynlleth sy'n chwarae yn Cae Glas. Agorwyd siop gyntaf Laura Ashley yma ym Machynlleth yn 35 Heol Maengwyn, a hynny yn 1961.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[6] Mae Caerdydd 131.5 km i ffwrdd o Machynlleth ac mae Llundain yn 283.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 73 km i ffwrdd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cynhaliodd Owain Glyndŵr senedd ym Machynlleth yn 1404. Yno, yng ngwydd llysgenhadon o Ffrainc, Yr Alban a Sbaen, coronwyd Owain yn Dywysog Cymru. Llys Maldwyn yn Heol-y-Doll oedd lleoliad Vane Infant School hyd at 1852.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Machynlleth (pob oed) (2,235)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Machynlleth) (1,119)
  
51.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Machynlleth) (1466)
  
65.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Machynlleth) (390)
  
37.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

Pont-ar-Ddyfi a Phont Ddyfi Newydd[golygu | golygu cod]

Crybwyllir 'Pont ar Ddyfi' am y tro cyntaf yn 1533, gan Geoffrey Hughes yn ei gyfrol "Citizen and Merchant taylour of London" a adawodd £6 13s 4d (deg marc) i godi'r bont. Erbyn 1601 dywedwyd nad oedd "pont Ddyfi yng Nghantref Mochunleth" yn ddigonol, ac adeiladwyd yr un presennol yn 1805 am gost o £250.

Ar 13 Ionawr 2020, cymeradwyodd y Llywodraeth Cymru adeiladu pont newydd ar draws Afon Dyfi. Agorwyd y ffordd newydd yn 2023 a chostiodd tua £46 miliwn, arianwyd y gwaith gan Lywodraeth Cymru.[10] Roedd yr hen bont dan lifogydd yn aml pan oedd llif yr afon yn gryf ond mae'r broblem hon bellach wedi'i datrus.

Hamdden[golygu | golygu cod]

Mae anturiaethau awyr agored yn boblogaidd yn yr ardal ac yn denu twristiaid. Lleolir Coedwig Dyfi i'r gogledd o'r dref sy'n cynnwys sawl llwybr cerdded a llwybr beicio mynydd.

Digwyddiadau[golygu | golygu cod]

Cynhelir dau ŵyl flynyddol o bwys yn y dref:

Enwogion[golygu | golygu cod]

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Machynlleth ym 1937 a 1981. Am wybodaeth bellach gweler:

Oriel[golygu | golygu cod]

Machynlleth, Sir Drefaldwyn

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 7 Tachwedd 2021
  3. https://www.nomisweb.co.uk/reports/localarea?compare=W04000326.
  4. https://www.cambrian-news.co.uk/news/valley-of-the-lonely-hearts-668205.
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. "Codi pont newydd dros afon Dyfi ger Machynlleth". Golwg360. Cyrchwyd 13 Ionawr 2020.
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.