Mamograffeg

Oddi ar Wicipedia
Mamograffeg
Enghraifft o'r canlynolmath o brawf meddygol Edit this on Wikidata
Mathroentgenoleg, delweddu meddygol, delweddu meddygol o'r fron Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pelydr X ar y fron yw mamogram. Defnyddir mamogramau sgrinio i chwilio am ganser y fron mewn menywod sydd ag arwyddion neu symptomau o'r clefyd. Defnyddir mamogramau diagnostig i chwilio am ganser y fron ar ôl i lwmp neu arwydd neu symptom arall o'r clefyd gael ei ddarganfod.[1]

Mae'r fron wedi'i gwneud o feinwe bloneg sy'n storio braster, meinwe gyswllt, miloedd o labedennau a thiwbiau bach iawn a elwir yn ddwythellau. Mae llabedennau yn chwarennau a dwythellau bychan sy'n cynhyrchu llaeth ac sy'n cyflenwi llaeth i'r deth.

Gall canser y fron ymledu i rannau eraill o'r corff fel yr afu, yr esgyrn neu'r nodau lymff (chwarennau bach sy'n hidlo bacteria o'r corff, mae'r rhai agosaf i'r fron yn mynd dan y fraich, yn ardal y gesail) Hyd yma ni ddeallir yn llwyr beth sy'n achosi canser y fron. Mae ffactorau fel oedran a hanes teuluol yn cynyddu'r tebygrwydd o ddatblygu canser y fron. Mae gan y genynnau a etifeddwyd gennych rôl i'w chwarae – er nad oes ‘genyn canser y fron’ yn bodoli (yn yr un ffordd ag y ceir genyn ar gyfer ffibrosis y bledren), gall mwtaniadau mewn rhai genynnau (BRCA1 a BRCA2) gynyddu eich tebygrwydd o'i ddatblygu.

Mae mamogram yn tynnu llun pelydr X o du mewn y bronnau. Fe'i defnyddir i nodi newidiadau ym meinwe'r fron yn gynnar, cyn i unrhyw lwmp fod yn amlwg. Mae'r dechneg yn fwy effeithiol mewn menywod dros 35, gan fod menywod iau yn dueddol o feddu ar fronnau mwy trwchus ble mae'n fwy anodd sbotio newidiadau. Gellir cynnig sgan uwchsain ar y fron i fenywod iau yn hytrach na hyn. Mae radiograffydd (arbenigydd pelydr X) yn gosod un fron ar blât pelydr X fflat. Yna gwthir ail blât pelydr X i lawr ar y fron oddi uchod (a all achosi poen neu anghysur dros dro), yna caiff ei gwasgu a'u fflatio rhwng y ddau blât. Cymerir pelydr X, ac yna caiff y broses ei hailwneud ar y fron arall.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)