Neidio i'r cynnwys

Norman Florence

Oddi ar Wicipedia
Norman Florence
Ganwyd3 Ionawr 1933 Edit this on Wikidata
Bu farw17 Rhagfyr 1996 Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Actor a rheolwr theatr o Dde Affrica oedd yn gweithio a byw ym Mhrydain oedd Norman Samuel Fredericksen Florence (3 Ionawr 193317 Rhagfyr 1996).[1]

Ganwyd yn Nhref y Penrhyn, De Affrica. Mynychodd Prifysgol Tref y Penrhyn ac yno bu'n cwrdd ag Emlyn Williams. Symudodd Florence i Brydain ym 1954 a chafodd ei noddi gan Williams i fynychu'r Central School of Dramatic Art yn Llundain. Wedi iddo raddio, ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau a dramâu teledu, ac yn aml chwaraeodd cymeriadau drwg mewn rhaglenni teledu gan gynnwys The Saint, Z Cars, The Avengers, a The Man From UNCLE. Cyfarwyddodd addasiad ffilm o'r ddrama The Swamp Dwellers gan Wole Soyinka a enillodd wobr yng Ngŵyl Ffilm Berlin ym 1966.[1]

Priododd yr actores Rhoda Lewis ym 1960 a chafodd un mab, Peter Florence. Yn y 1970au, canolbwyntiodd Norman ar reoli theatr, gan weithio gyda Sam Wanamaker ar brosiect y Globe. Rheolodd theatrau yn Birmingham, Northampton, ac Ipswich cyn iddo ddod i Gymru i fod yn weinyddwr y cwmni theatr dwyieithog Theatr yr Ymylon. Sefydlodd Norman a Peter y Projects Company, a gomisiynodd a chynhyrchodd teithiau byd-eang o ddramâu a sioeau cerdd gan gynnwys The Pity of War, Portrait of the Artist as a Young Dog a chynhyrchiad cerddorol o ddrama Christopher Fry, The Boy with a Cart.[1]

Ym 1988 sefydlodd Norman, Rhoda a Peter Gŵyl y Gelli, gŵyl lenyddol a gynhelir yn flynyddol hyd heddiw yn y Gelli Gandryll. Bu farw ym Mronllys, Powys.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Heath, Tony (8 Ionawr 1997). Obituary: Norman Florence. The Independent. Adalwyd ar 15 Rhagfyr 2014.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]