Pentre Gwynfryn

Oddi ar Wicipedia
Pentre Gwynfryn
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanbedr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.823°N 4.084°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH596270 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan yn ardal Ardudwy, Gwynedd yw Pentre Gwynfryn ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir tua milltir i'r dwyrain o Lanbedr wrth gymer Afon Artro ac Afon Cwmnantcol.

Saif y pentref gwledig ar ffordd sy'n dringo o Lanbedr i gyfeiriad Cwm Nantcol a bryniau'r Rhinogau. Y fferm pellaf yng nghesail y cwm yw Maesygarnedd, rhyw bum milltir (7 km) i'r dwyrain; dyma gartref John Jones, un o'r gwŷr a arwyddodd warant marwolaeth Siarl I, brenin Lloegr a brawd-yng-nghyfraith Oliver Cromwell.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Capel Salem[golygu | golygu cod]

Daeth Capel Salem ym Mhentre Gwynfryn yn enwog diolch i'r paentiad adnabyddus gan Sydney Curnow Vosper o Siân Owen yn eistedd yn y capel yn ei siôl Gymreig. Cred rhai eu bod yn medru gweld llun y Diafol ym mhlygiadau'r siôl. Mae paentiad Capel Salem i'w gweld heddiw yn Oriel Gelf yr Arglwyddes Lever (Lady Lever Art Gallery) yn Port Sunlight, Cilgwri, Lloegr.

Cofrestrwyd y capel a thŷ'r gofalwr, sy'n sownd iddo, gan Cadw fel Gradd II ar 20 Tachwedd 1966, oherwydd "ei fod yn esiampl ddao o gapel o ganol y 19g, sydd wedi cadw ei gymeriad traddodiadol yn dda a bod iddo lawer o nodweddion gwreiddiol gan gynnwys fanylion gwreiddiol mewnol megis y ffenestri." Rhif Cofrestru Cadw: 4781.[3] Fe'i codwyd yn 1850, a deg mlynedd yn ddiweddarach bu'n rhaid ei ymestyn, gan ei fod yn rhy fach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato