Potsdamer Platz

Oddi ar Wicipedia
Potsdamer Platz
Mathsgwâr, ensemble pensaernïol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlPotsdam, Potsdam Gate Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaPotsdamer Straße, Ebertstraße, Leipziger Platz, Stresemannstraße, Auguste-Hauschner-Straße, Bellevuestraße, Alte Potsdamer Straße, Linkstraße, Gabriele-Tergit-Promenade Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTiergarten, Mitte Edit this on Wikidata
SirMitte Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Cyfesurynnau52.5094°N 13.3765°E Edit this on Wikidata
Map
Y Sony Center

Sgwâr cyhoeddus a chroesffordd bwysig yng nghanol Berlin, yr Almaen, yw Potsdamer Platz (Almaeneg: [ˈpɔtsdamɐ plats]). Fe'i lleolir tua 1 km i'r de o Borth Brandenburg a'r Reichstag (Adeilad Senedd yr Almaen) yn agos i gornel dde-ddwyreiniol parc Tiergarten. Daw ei enw o ddinas Potsdam, ryw 25 km i'r de-orllewin ac mae'n dangos y pwynt lle yr oedd yr hen ffordd o Potsdam yn mynd trwy fur dinas Berlin trwy Borth Potsdam. Wedi ychydig dros ganrif o gael ei ddatblygu o groesfordd wledig i un o'r fwyaf prysur yn Ewrop,[1] fe ddiffeithiwyd y ardal yn ystod yr Ail Ryfel Byd a roedd yn aros yn ddiffaith yn ystod y Rhyfel Oer pan oedd Mur Berlin yn ei rhannu'n ddwy. Ers ailuniad yr Almaen, bu nifer o brojectau mawr i ddatblygu Potzdamer Platz.

Hen lun o Potsdamer Platz
Potsdamer Platz yn 2004

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Tony le Tissier, Berlin Then and Now (After the Battle, 1992)
  • Peter Fritzsche, Karen Hewitt, Berlinwalks (Boxtree, 1994)
  • Jack Holland, John Gawthrop, Berlin: The Rough Guide (Rough Guides, 1995)
  • Ulrike Plewina, Horst Mauter, Laszlo F. Foldenyi, Ulrich Pfeiffer, Alfred Kernd'l, Thies Schroder: Potsdamer Platz: A History in Words and Pictures (Dirk Nishen Verlag, 1996)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Eric D. Weitz, Weimar Germany (Princeton University Press, 2007), t. 43

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]