Recordiau Cambrian

Oddi ar Wicipedia
Recordiau Cambrian
Enghraifft o'r canlynolcwmni record, label recordio annibynnol Edit this on Wikidata
Daeth i ben1980 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1967 Edit this on Wikidata
GenrePop Cymraeg, cerddoriaeth boblogaidd, côr, Canu gwerin Edit this on Wikidata
Mary Hopkin, oedd o Bontardawe, lleoliad Recordiau Cambrian. Ei chân 'Aderyn Llwyd' oedd yr ail recorod i'w rhyddhau gan Recordiau Cambrian

Label recordiau Cymreig oedd Recordiau Cambrian (weithiau hefyd Label Cambrian neu Recordiau Cambria) neu Cambrian Records yn Saesneg. Lleolwyd y cwmni ym Mhontardawe, dan arweiniad Josiah Jones. Fe'i cysylltir gyda lledaeniad canu pop Cymraeg ysgafn o'r 1960au canol ymlaen. Sefydlwyd y cwmni yn 1967 a daeth yn ran o grŵp Decca yn 1974,[1] gyda recordiau i’w gweld ar label Cambrian tan tua 1980 pryd ddaeth y label i ben (Ymddengys i Cambrian gyhoeddi cofnodion o 1967 tan tua 1980).[2] Sefydlwyd y cwmni gan Josiah Jones ("Josh Cambria").[1] Lleolwyd hwy ar 18, Stryd Fawr, Pontardawe,[3] ac yn 1968 rhoddwyd eu cyfeiriad fel 5, Primrose Rd, Pontardawe.[4]

Hanes a Chyd-destun[golygu | golygu cod]

Bu Josiah Jones yn gweithio rhywfaint i gwmnïau Recordiau Qualiton a Welsh Teldisc cyn gadael Teldisc yn 1967 i gychwyn cwmni Cambrian.

Bu i Cambrian gyhoeddi tua 120 o LPs, 90 EP a thua 45 sengl, yn ôl y drefn rhifo. A chopïau ar gasét o rai ohonynt, er bod y rheini'n fwy prin. Recordiau Cymraeg oedd cynnyrch pennaf y cwmni, ac ambell i record Saesneg gan unigolion a grwpiau o Gymru.[1]

Fel y labeli mawr eraill yng Nghymru - Recordiau Qualiton, Recordiau'r Dryw, Welsh Teldisc a Sain - ni chafodd Cambrian lawer o sylw yn y byd cerddoriaeth Brydeinig ond roedd yn sylfaenol bwysig i fyd cerddorol Cymru. Nodir bod y recordiau'n cael eu gwasgu gan gwmni Orlake, a’i fod yn dosbarthu ei recordiau ei hun drwy’r post.[2]

Rhoddwyd dosbarthiad ehangach i rai recordiau: nododd ‘RR’ ar 15 Tachwedd 1969 fod sengl gan y Triban, ‘Leaving On A Jet Plane’ (CSP-707) ar gael trwy Lugton a H.R. Taylor, tra bod rhifyn y 7 Mawrth 1970 yn dweud bod yr un ddau ddosbarthwr yn trin albwm gan yr Hennessys.

Is-label Glenwood[golygu | golygu cod]

Am gyfnod gymharol fyr, roedd yna is-label o’r enw Glenwood.[2]

Roedd yn arbenigo mewn caneuon gwerin neu gorawl, a phop canol y ffordd, er bod rhywfaint o ganu gwlad yn y catalog yn ystod y ddwy neu dair blynedd olaf. Er syndod, mae 'Buona Sera', ochr 'B' sengl Keith Gordon 'Myfanwy' (CSP-744), mewn arddull jazz draddodiadol.[2]

Artistiaid[golygu | golygu cod]

Artistiaid Cymraeg a Chymreig oedd mwyafrif catalog Cambrian. Roeddynt yn cynnwys rhai o enwau mawr canu poblogaidd Cymraeg yr 1960au hwyr a'r 70au cynnar, megis Iris Williams, yr Hennessys, Max Boyce, Hogia Llandegai, Hogia Bryngwran, Hogiau'r Deulyn, Y Perlau, Y Cwiltiaid, Y Derwyddon a Richie Thomas. Recordiau Cambrian bu hefyd yn gyfrifol am ryddhau'r hyn a ystyrir y sengl roc Gymraeg gyntaf gan grŵp Y Blew yn 1967.

Llwyddiant Brydeinig[golygu | golygu cod]

Y brif reswm mae'r label yn adnabyddus i bobl y tu allan i Gymru yw ei fod wedi cyhoeddi sawl record gan Mary Hopkin, a gafodd hit Rhif 1 gyda 'Those Were The Days' yn 1968 ar label Apple y Beatles.

Recordiau Sain[golygu | golygu cod]

Ymddengys i Recordiau Sain brynu catalog caneuon Recordiau Cambria gan ailryddhau nifer fawr o'r caneuon megis 'Pererin Wyf' gan Iris Williams a ryddhawyd yn wreiddiol gan Cambrian yn 1971.[5]

Cambrian Records newydd, wahanol[golygu | golygu cod]

Yn ddryslyd sefydlwyd label arall o'r enw Cambrian Records, heb gysylltiad â'r Cambrian Records wreiddiol. Maent wedi eu lleoli yng "Nghanolbarth Cymru".[6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Cambrian". Y Blog Recordiau Cymraeg. 1 Tachwedd 2021. Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Cambrian". Seventies Seven. Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.
  3. "Cambrian". Discog. Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.
  4. "Y Perlau". 45cat. Cyrchwyd 18 Ebrill 2024.
  5. "Pererin Wyf". Sianel Irish Williams recordiad oddi ar Y Caneuon Cynnar / The Early Recordings 2000 Sain (Recordiau) Cyf. 2010-07-01. Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.
  6. "Cambrian Records". Twitter @cambrianrecords. 2 Chwefror 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato