Elfen gemegol yw rwbidiwm gyda'r rhif atomig 37 a'r symbol Rb. Mae'n rhan o'r metelau alcalïaidd yn y tabl cyfnodol. Metel feddal iawn yw rwbidiwm a gellir ei dorri gyda chyllell yn hawdd. Mae'r metel yn adweithiol iawn felly mae'r wyneb newydd yn sgleiniog, ond mae'n troi'n bŵl yn gyflym wrth i haen o rwbidiwm ocsid ffurfio dros ei wyneb yn ystod adwaith gydag ocsigen o'r aer. Er mwyn atal yr adwaith caiff y metel ei storio o dan olew paraffin sy'n cadw'r aer i ffwrdd.