Sgwrs:Brunswick Newydd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Gweler hefyd Sgwrs:Newfoundland a Labrador.

Dwi'n tueddu i feddwl y dylem ni ddefnyddio'r ffurf Brunswick Newydd, ond 'New Brunswick' oedd ar y nodyn yn barod i'w ddefnyddio. Mae sgwrs wedi bod eisoes ar rai enwau yng Nghanada (gw. uchod). Dwi'n meddwl bod rhaid ini fod yn gyson. Fy marn bersonol yw bod 'New' yn rhywbeth y dylem ni gyfieithu bob tro am ei fod yn beth mor naturiol a dim yn creu unrhwy anhawsterau. Mae lot iawn o enwau tebyg yn y Stêts hefyd (New Mexico, New Orleans, a.y.y.b.). Be wnawn ni? Anatiomaros 22:37, 4 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Cytuno dylid defnyddio Brunswick Newydd. Mae'n swnion iawn, ac mae ganddo'r mantais fod yn roi statws mwy cyfartal i'r ffurfiau Saesneg a Ffrangeg ar yr enw! --Llygad Ebrill 23:46, 4 Mai 2007 (UTC)[ateb]